Ymdopi â COVID-19
Mae COVID-19 wedi cael effaith arnom ni i gyd. Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod o ansicrwydd sylweddol i bawb ac rydym i gyd wedi gorfod addasu ein bywydau.
Os ydych chi’n gwella ar ôl COVID-19, yn cysgodi, yn ymdopi â mater meddygol neu anabledd, neu os ydych chi’n wynebu newidiadau eraill i’ch bywyd bob dydd, mae’n arferol i deimlo’r effeithiau ar eich iechyd meddwl. Gall straen a phryder gael effaith ar sut yr ydych chi’n teimlo’n gorfforol, a gwneud i chi deimlo’n fwy blinedig.
Mae’n bwysig cydnabod pan yr ydych chi’n teimlo o dan straen neu’n bryderus. Gallwch gymryd camau cadarnhaol i reoli’ch teimladau. Os oes angen cymorth brys arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, ffoniwch 999.
Darganfyddwch fwy am y cymorth brys sydd ar gael pan nad yw’n argyfwng, neu ddarllenwch wybodaeth fwy cyffredinol am fyw’n dda mewn arwahanrwydd. Mae yna hefyd nifer o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi wrth ymdopi â COVID-19, ac mae modd dod o hyd i rai ohonynt ar y gwefannau canlynol:
- Mae gan wefan Stepiau wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghaerdydd a’r Fro, gydag adnoddau sy’n benodol ar gyfer COVID-19.
- Mae gan wefan y GIG ‘One You’ adnoddau a chyngor ymarferol ar gyfer rheoli eich lles meddyliol yn ystod y pandemig COVID-19.
- Ar Wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae’r tudalennau ‘Sut wyt ti?’ yn rhoi cyngor ar sut y gallwch chi gael gafael ar gymorth, gyda gwybodaeth benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr, pobl hŷn, plant a phobl ifanc, a menywod beichiog.
- Mae gan wefan Let’s Talk About CBT wybodaeth am ymdopi â phryder am Coronafeirws, a’r hyn sy’n helpu er mwyn goddef ansicrwydd.
- Mae Prifysgol Exeter wedi cynhyrchu rhaglen hunangymorth Get Active Feel Good, a allai fod yn ddefnyddiol i ymdopi gyda hwyliau isel, ac i helpu gyda chamau cadarnhaol i wella eich lles meddyliol.