Poen
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod llawer o bobl sy’n gwella ar ôl COVID 19 yn dioddef o broblemau iechyd parhaol sylweddol, sydd yn amrywio o boen a synhwyrau i ddiffyg teimlad mewn rhannau o’r corff neu binnau bach.
Mae poen yn cael ei ddiffinio yn y frawddeg isod:
“Mae poen yn brofiad annymunol o ran eich synhwyrau ac eich emosiynnau ac fe all gael effaith sylweddol ar eich ansawdd bywyd, iechyd cyffredinol, iechyd seicolegol, ynghyd â lles cymdeithasol ac economaidd i’r unigolyn syn dioddef.” (Canllawiau NICE, 2013)
Mae poen yn gymhleth iawn ac mae llawer o resymau pam y gallwch chi deimlo poen. Rydym i gyd yn gyfarwydd â phoen ‘acíwt’ sy’n digwydd o ganlyniad i anaf fel troi eich ffêr . Fel rheol bydd y math yma o boen wedi diflannu o fewn 3 mis. Fodd bynnag, i rai pobl, gall poen bara’n hirach a gall ddatblygu i fod yn fwy cronig (neu’n barhäol). Mae’r math yma o boen yw wneud â newidiadau i system nerfol y corff. Fe ddaw’r system nerfol yn fwy ‘sensitif’ ac yn fwy effeithiol wrth drosglwyddo arwyddion o boen.
Gwyliwch y fideo hwn os hoffech wybod mwy am boen cronig neu parhaus.
Adnoddau eraill yn yr adran hon
Rhestr gwybodaeth gysylltiedig
Gall byw gyda phoen beri gofid mawr, ond mae yna ffyrdd y gallwch chi ddysgu i rheoli eich poen. Yn union fel symptomau eraill COVID 19, gall cymryd agwedd cam wrth gam at reoli poen fod yn ddefnyddiol. Mae gosod nod ymarferol (sy’n bwysig i chi) yn fan cychwyn da. Mae gweithio eich ffordd drwy’r fideos ymarferion graddedig ar y wefan hon neu gosod nod yn ymwneud gyda hunan-ofal, diddordebau neu edrych ar ôl eich lles meddyliol fod yn ffordd dda o ddechrau. Y peth pwysicaf i gofio yw peidiio gwneud gormod yn rhy sydyn oherwydd gall hyn atal eich adferiad a gall hynny fod yn ergyd i’ch hunan hyder. Gall cael cyngor ar ddefnyddio meddyginiaeth poen yn effeithiol hefyd fod yn rhan o’ch cynllun rheoli’r poen.
Mae cysylltiad agos rhwng effeithiau straen, pryder ac iselder ysbryd (fel mewn llawer o gyflyrau eraill) â phoen. Weithiau mae meddwl am boen yn debyg i’t switsh ar eich radio i gynyddu swn. Efallai y bydd rhai pethau yn “cynyddu swn” (neu’n dwyshau) eich poen, fel rhai symudiadau, gweithgareddau neu pan fyddwch yn teimlo o dan straen. Gall ymarfer strategaethau i ymdopi â straen neu helpu gyda lles fod yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli poen hefyd.
Fersiwn Gymraeg : Deall Poen Parhaol : Sut i “ddiffodd swn” poen parhaol.