Mae teimlo blinder yn ran arferol o wella ar ôl COVID-19. Gall amrywio mewn difrifoldeb o’r ysgafn I’r difrifol. Blinder yw’r term meddygol a ddefnyddir i ddisgrifio teimlo’n flinedig ac yn llesg neu wrth deimlo bod diffyg egni gyda chi. Nid yw yr un peth â theimlo’n gysglyd. Os ydych chi’n dioddef o flinder, yn gyffredinol nid oes gennych unrhyw gymhelliant neu egni. Gall bod yn flinedig neu’n gysglyd fod yn un symptom o flinder, ond nid o reidrwydd yr un peth.
Mae blinder yn debygol o barhau am gyfnod ar ôl i’r haint glirio.
Gall blinder beri i chi gysgu mwy, teimlo’n simsan ar eich traed, gwneud hi’n anodd sefyll am gyfnodau hir, yn ogystal ag effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio ynghyd ag amharu ar eich cof.
Os ydych chi’n meddwl fod blinder yn broblem I chi , mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ac ymarferol ar sut y gallwch reoli blinder ar ôl feirws COVID-19, a sut i arbed egni.
Os ydych chi’n teimlo’n orbryderus, wedi eich gorlethu, neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi, cysylltwch â’ch meddyg teulu, sydd yn medru eich cyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd perthnasol.
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.