Therapi Galwedigaethol
i Blant a Phobl Ifanc

Rydyn ni’n Therapyddion Galwedigaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

girl being helped to wash handsRydyn ni’n gweld plant a phobl ifanc 0 i 18 oed sy’n cael trafferth wrth gyflawni tasgau galwedigaethol.

Gellir disgrifio tasgau galwedigaethol fel hyn:

  • Pethau rydyn ni angen eu gwneud – gwisgo, ymolchi, bwyta, cysgu a gofal personol
  • Pethau sy’n rhaid i ni eu gwneud – tasgau a gwaith ysgol
  • Pethau rydym eisiau eu gwneud–chwarae a hamddena

Rydyn ni’n ystyried pam nad yw rhywbeth yn datblygu ac yna rydyn ni’n chwilio am y ffyrdd gorau i helpu’r unigolyn i wneud cynnydd. Er enghraifft, gall cydgysylltu gwael effeithio ar sut mae botwm yn cael ei gau, felly gall defnyddio botymau mwy neu ddatblygu sgiliau echddygol manwl arwain at feistroli botymau.

Gwyliwch ein fideo ‘Deall Therapi Galwedigaethol’

Boy in wheelchair buttering breadRydyn ni eisiau cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni tasgau galwedigaethol a’u meistroli.

Rydyn ni eisiau cefnogi’r rhai sy’n helpu’r plentyn neu’r person ifanc – rhieni, gofalwyr ac athrawon – i wybod beth sy’n gweithio orau i ddatblygu’r tasgau galwedigaethol hyn.

Rydyn ni eisiau magu cyd-ddealltwriaeth o beth i’w ddisgwyl os oes oedi datblygiadol neu anabledd gan blentyn/person ifanc ac archwilio sut i addasu tasg i sicrhau bod y plentyn/person ifanc yn gallu cymryd rhan gymaint â phosibl.

daddy teaching toddler how to put socks onRydyn ni’n pwyso a mesur sut mae’r amgylchedd yn helpu i gefnogi datblygiad galwedigaethol.

  • Ydy’r alwedigaeth ar y lefel ‘iawn’ ar gyfer pob unigolyn?
  • Beth yw oedran a chyfnod datblygiad y plentyn?

Rydyn ni hefyd yn meddwl am unigrywiaeth pob plentyn a pherson ifanc.

  • Beth maen nhw wedi ei brofi?
  • Pa sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod?
  • Os oes ganddyn nhw anabledd neu rwystr, sut mae hynny’n effeithio ar eu cyfranogiad galwedigaethol?

Rydyn ni’n ystyried sut mae’r pethau hyn yn rhyngweithio, ac yna rydyn ni’n gweithio gyda chi i waredu rhwystrau a meithrin sgiliau a chyfleoedd i gael mwy o gyfranogiad galwedigaethol. Rydyn ni hefyd yn siarad â’r plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni neu ofalwyr ynghylch eu galwedigaethau. Efallai y byddwn yn siarad ag athrawon y plentyn a staff iechyd eraill hefyd fel meddygon, therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr a ffisiotherapyddion.

Rydyn ni’n defnyddio gemau a gweithgareddau i’n helpu ni i ddeall beth sy’n bwysig i’r unigolyn a beth maen nhw eisiau ei newid.

Rydyn ni’n archwilio rhinweddau sylfaenol pob plentyn a pherson ifanc. Rydyn ni’n canfod sut mae eu datblygiad synhwyraidd ac echddygol yn effeithio ar ddatblygiad galwedigaethau a’u hiechyd meddwl a lles.

Rydyn ni’n gwrando ac yn asesu, hyfforddi a chynghori, yn darparu cyfarpar a thriniaeth, gyda’r nod o helpu pob plentyn a pherson ifanc i reoli ei ddatblygiad galwedigaethol ei hun a chymryd rhan lawn yn eu cymuned. 

Therapi Galwedigaethol BIP Caerdydd a'r Fro: Helpu chi byw eich bywyd - eich fford chi
PPIT Gwasanaethau Plant Pobl Ifanc ac Iechyd Teuluol

Hefyd yn yr adran hon

Sut i gysylltu a ni

I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910.

Manylion Cyswllt

Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH

Rhif Ffôn: 02921 836 910

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content