Fideos ac adnoddau
Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu sawl adnodd y gallwch fanteisio arnyn nhw gan gynnwys fideos sy’n archwilio agweddau allweddol ar Therapi Galwedigaethol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Deall Sut Mae Plant yn Datblygu Sgiliau
Mae’r fideo 31 munud hwn yn rhoi trosolwg defnyddiol o sut mae plant yn datblygu sgiliau a thechnegau newydd er mwyn eich helpu i gefnogi eich plentyn yn y ffordd hon.
Deall Sut Mae Plant yn Defnyddio eu Synhwyrau i Reoleiddio ar gyfer Dysgu a Chwarae
Mae’r fideo 34 munud hwn yn esbonio prosesu synhwyraidd, y rôl y mae’n ei chwarae a sut i helpu plentyn gydag anawsterau prosesu synhwyraidd.
Offer Rheoleiddio Synhwyraidd
Mae’r fideo 9 munud hwn yn rhoi arddangosiad ymarferol o offer a thechnegau sy’n cefnogi plant i reoleiddio’u synhwyrau. Cafodd y fideo ei ddatblygu ar gyfer disgyblion yn ysgolion Bro Morgannwg.
Sut i gael mynediad at Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Cysylltwch â ni ar 02921 836910 i wneud cais am gymorth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.
Manylion Cyswllt
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH
Rhif Ffôn: 02921 836 910