Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cefnogi’ch plentyn i ddefnyddio’r toiled

Fel arfer mae plant yn cael eu dysgu i ddefnyddio’r toiled erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio’r wybodaeth hon i’ch helpu chi i gefnogi eich plentyn i fod yn fwy annibynnol wrth fynd i’r toiled.

What are the skills needed to be independent?

Offer sy’n gallu helpu

Gostyngydd toiled a gris

Plastic toilet seat that goes on top of toilet seat for children to comfortably sit on. And a step to help children reach the toilet.

Sedd toiled plentyn

Pa heriau sydd gan eich plentyn?

Beth alla i wneud i helpu?

  • Gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn teimlo’n ddiogel ar y tŷ bach.
  • Efallai bod angen sedd toiled plentyn er mwyn helpu gyda hyn.
  • Gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn cynnal traed eich plentyn – e.e. gris neu rywbeth cadarn ar y llawr

Beth alla i wneud i helpu?

  • Rhowch ddillad digon llac i’ch plentyn er mwyn iddo/iddi allu gwisgo ei hunan. Ceisiwch osgoi ffasninau bach anodd i’w cau a chael dillad gyda gwasg elastig
  • Ymarferwch ddefnyddio ‘Cadwyno’n ôl’. Mae rhagor o fanylion yn y ddolen hon
  • Mae’n werth ymarfer hyn pan fydd digon o amser gennych a’r plentyn ddim angen mynd i’r tŷ bach

Beth alla i wneud i helpu?

  • Defnyddio’r un camau bob tro, e.e. torchi llewys, agor y tap, gwlychu dwylo, rhoi sebon, rhwbio dwylo gyda’i gilydd, rinsio dwylo, cau’r tap, ysgwyd dwylo, sychu dwylo.
  • Gosodwch restr weledol wedi’i lamineiddio ar uchder llygaid eich plentyn wrth y sinc
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gallu cyrraedd y sinc yn hawdd – efallai bydd angen gris

Beth alla i wneud i helpu?

  • Mae angen i blant ddod i ddeall eu corff a sut mae’n gweithio – rydyn ni’n galw hyn yn “ymwybyddiaeth gorfforol”. Dyma rai gweithgareddau sy’n gallu gwella hyn: neidio, rowlio o ochr i ochr, caneuon symud, bownsio ar bêl sboncio ac ymlusgo ar y bol.
  • Dylai eich plentyn ddeall beth yw ‘y tu ôl’ hefyd. Chwaraewch gêm gyda bagiau ffa a gofyn i’ch plentyn basio’r bag ffa o gwmpas ei gorff gan symud y bag ffa o un llaw i’r llall y tu ôl i’w gefn. Pan fydd yn gallu gwneud hyn, dywedwch wrth eich plentyn basio’r bag ffa rhwng y coesau o’r tu ôl. Gwnewch hyn yn anoddach drwy ofyn iddo/iddi sefyll ar un goes.
  • Rhowch rywbeth o dan draed eich plentyn tra mae’n eistedd ar y tŷ bach. Bydd hyn yn ei helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth bwyso i un ochr i sychu ei hun.
  • Gadewch i’ch plentyn ymarfer sychu ei ben ôl (e.e. gan ddefnyddio ‘Crazy Soap’) yn y bath neu’r gawod. Gofynnwch i’ch plentyn blygu ar ei liniau yn y bath er mwyn sychu ei hun. Atgyfnerthwch y dechneg o ymestyn y tu ôl er mwyn gwneud hyn.
  • Bydd eich plentyn yn cael gwell ymwybyddiaeth o ble i sychu drwy ddefnyddio gwlanen fwy garw (yn y bath).
  • Defnyddiwch weips gwlyb i sychu eich plentyn pan fydd yn defnyddio’r toiled gan fod y rhain yn fwy synhwyraidd. Yna gadewch i’ch plentyn sychu ei hun gyda’r papur tŷ bach.
  • Helpwch eich plentyn ar y dechrau, yn ôl yr angen, cyn annog eich plentyn i orffen sychu ei hun ar y diwedd. Dewch â lefel y gefnogaeth i ben yn raddol.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content