Mae cwsg yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n iach ac yn barod i wynebu’r hyn sydd gan fywyd i’w gynnig.
Mae mynd i gysgu a chael digon o gwsg yn sgiliau pwysig i blant eu dysgu.
Mae cwsg yn helpu i sicrhau bod plant yn gallu chwarae a’u bod nhw’n barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol yn yr ysgol neu yn y cartref ac mae’n hybu twf a datblygiad. Gall deall y pethau sylfaenol am gwsg eich helpu i feddwl pam mae eich plentyn yn cael trafferth cysgu efallai. Pan fydd eich plentyn yn cael trafferth cysgu, mae cymharu ei gwsg ef/hi â chwsg plant eraill yn gallu bod yn demtasiwn. Cofiwch fod pob plentyn yn unigolion – dyw cymharu ddim yn ddefnyddiol.
Os nad yw eich plentyn yn cysgu, efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi methu, ond cofiwch fod pob rhiant yn cael anawsterau wrth geisio sefydlu arferion cysgu da eu plant. Gall noson wael o gwsg amharu ar berfformiad ac ymddygiad plentyn y diwrnod canlynol.
Mae gan setiau teledu a sgriniau olau glas artiffisial sy’n atal yr ymennydd rhag cynhyrchu ei ‘hormon cysgu naturiol’ (melatonin) ac mae hynny’n ymyrryd â chwsg.
Cliriwch annibendod yn ystafell wely eich plentyn cyn cysgu e.e.,
Mae plant yn tueddu i ffynnu ar drefn arferol. Ceisiwch gael amser mynd i’r gwely ac amser codi rheolaidd. Mae arafu a thawelu yn gam pwysig iawn wrth baratoi eich plentyn i fynd i’r gwely. Bydd arferion mynd i gysgu da yn helpu i reoli dihuno yn y nos. Sylwch sut mae eich plentyn yn mynd i gysgu – mae hynny’n dangos ei allu i ymdawelu. Os oes rhaid i chi fynd at eich plentyn pan mae’n dihuno yn y nos, ceisiwch osgoi pethau sy’n gallu ei gynhyrfu; defnyddiwch olau gwan a synau tawel.
Dyma enghraifft o drefn amser gwely dda:
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwylio ein gweithdy fideo yn gyntaf – ‘Sut mae plant yn defnyddio eu synhwyrau i reoleiddio dysgu a chwarae’ sy’n rhoi mwy o wybodaeth am chwarae synhwyraidd.
Dyma rai syniadau am weithgareddau sy’n helpu i roi mewnbwn tawelu synhwyraidd i’n cyrff:
Ystyr propriodderbyniaeth yw ein synnwyr ni o leoliad ein cyrff mewn gwagle ac mewn perthynas â’r byd o’n cwmpas. Rydyn ni’n cael gwybodaeth bropriodderbynnol drwy ein cyhyrau a’n cymalau pan fyddwn ni’n gwneud gweithgareddau gwthio, tynnu, codi neu wrthsefyll.
Mae effeithiau mewnbwn propriodderbynnol yn ymdawelu’r corff. Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau propriodderbynnol:
Mae cyswllt agos rhwng cyffwrdd dwfn a phropriodderbyniaeth, sydd hefyd yn helpu i dawelu ein systemau. Mae hyn yn wahanol i gyffyrddiad goglais ysgafn sy’n gallu bod yn anghyfforddus i rai pobl ifanc a gwneud iddynt fod yn fwy bywiog.
Dyma rai syniadau sut i gyflwyno cyffyrddiad dwfn:
Festibwlar yw ein synnwyr symud.
Mae dau fath o symudiad:
Ar y cyfan, er mwyn tawelu, rydych chi eisiau defnyddio symudiad llinol rhythmig araf.
Mae cnoi, sugno a chwythu yn gallu ymdawelu’r corff hefyd.
Creu lle i encilio iddo pan fydd sefyllfa’n mynd yn rhy anodd ac mae angen llai o ofynion amgylcheddol ar y person ifanc. Yn yr encil, dylid cael eitemau sy’n eu helpu nhw i ymdawelu a rheoli teimladau.
Dyma rai awgrymiadau ond cofiwch am hoff bethau a chas bethau’r person ifanc a cheisiwch greu’r encil gyda nhw. Gallwch chi greu’r encil drwy ddefnyddio pabell dros dro, partisiwn ystafell, neu mewn cornel ystafell hyd yn oed. Rhowch bethau sy’n ddiogel iddyn nhw eu defnyddio heb oruchwyliaeth fanwl.
Eitemau posibl i’w gosod yn yr encil:
Gall y gweithgareddau canlynol fod o gymorth hefyd – yn dibynnu ar lefel dealltwriaeth y person ifanc a’i allu i ddilyn cyfarwyddiadau. Sylwer y bydd angen ymarfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn gyntaf, pan fydd y person ifanc yn dawel ac yn barod i’w derbyn.
Dyma rai syniadau cyffredinol. Bydd p’un a yw’r rhain yn tawelu plentyn neu beidio yn dibynnu ar ddewisiadau’r person ifanc.
Mae’n bwysig bod plentyn yn ymarfer hyn pan fydd wedi ymlacio. Unwaith bydd eich plentyn wedi dysgu hyn, mae’n gallu defnyddio’r dechneg pan fydd dan straen. Mae ymarfer hyn cyn amser gwely yn gallu helpu plant sy’n cael trafferth mynd i gysgu.
Dechreuwch gyda rhif 8 ar ei ochr. Gan ddechrau yn y canol, ewch i fyny i’r chwith a dilyn rhan chwith yr 8 gyda’ch bys tra byddwch chi’n anadlu i mewn. Pan fyddwch chi’n cyrraedd canol yr 8 eto, anadlwch allan wrth i chi ddilyn rhan dde y rhif 8 gyda’ch bys.
Cysylltwch â ni ar 02921 836910 i wneud cais am gymorth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH
Rhif Ffôn: 02921 836 910
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.