Cwestiynau Cyffredin – Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc

Dyma atebion i gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml am wasanaeth Therapi Galwedigaethol Plant a Phobl Ifanc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cysylltwch â thîm gweinyddol Therapi Galwedigaethol ar 02921 836910

A boy with health-related icons around him

Ffoniwch dîm gweinyddol Therapi Galwedigaethol ar 02921 836910 er mwyn gallu gwneud Cais am Gymorth.

Bydd eich atgyfeiriad yn cael ei frysbennu er mwyn gweld sut y gall ein gwasanaeth helpu. Efallai y byddwch chi’n cael eich mynegbostio at gyngor yn y lle cyntaf, neu efallai y bydd eich atgyfeiriad a’ch pryder yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth arall.

Os ydych chi’n cael eich derbyn i’n gwasanaeth, byddwch yn derbyn llythyr ‘optio i mewn’ a fydd yn eich cyfeirio at ein hadnoddau cyffredinol a’n gweithdai rhieni er mwyn cael mynediad cyn eich asesiad ffôn cychwynnol. Mae’n bwysig eich bod chi’n ymateb i hyn o fewn pythefnos.

Yna, byddwch chi’n cael asesiad ffôn cychwynnol lle byddwn yn trafod proffil galwedigaethol eich plentyn gyda chi. Mae hyn yn ymdrin â phethau y mae eich plentyn yn eu gwneud yn ystod y dydd – pethau fel gweithgareddau hunan ofal (ymolchi, brwsio dannedd, mynd i’r tŷ bach), gwisgo, ysgrifennu, defnyddio cyllell a fforc. Rydyn ni’n edrych ar gryfderau a diddordebau eich plentyn, a’r meysydd yr hoffech chi eu datblygu. Does dim angen i ni weld eich plentyn bob tro. Gellir rhoi cyngor yn dilyn galwad ffôn er mwyn i chi allu gweithredu gartref.

Weithiau bydd rhaid i ni gwrdd â’ch plentyn wyneb yn wyneb. Gall hyn fod yn ymweliad â’r ysgol, ymweliad â’r cartref, asesiad yn y clinig (naill ai yn Llandochau neu Ganolfan Plant Dewi Sant) neu asesiad eistedd yn ein stordai offer. Mae rhai yn asesiadau untro; weithiau rydyn ni’n cynnig sesiynau dilynol.

Ar ddiwedd pob rhan o’r gofal, byddwch chi’n derbyn llythyr neu adroddiad gyda chrynodeb o’n hasesiad a’n cyngor ni, er mwyn i chi allu cyfeirio’n ôl atynt.

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch plentyn sy’n gallu atgyfeirio at ein gwasanaeth. Os nad yw eich plentyn yn hysbys i wasanaethau eraill (Ffisiotherapi, Therapi Lleferydd ac Iaith, Podiatreg ac ati), gallwch chi ofyn ich meddyg teulu neu nyrs ysgol wneud atgyfeiriad. 

Mae llinell gyngor yn cael ei lansio yn 2023 lle gallwch chi ffonio er mwyn cael apwyntiadau untro.

Sut i gysylltu a ni

I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910.

Manylion Cyswllt

Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH

Rhif Ffôn: 02921 836 910

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content