Bydd cyflwyno amrywiaeth o chwarae synhwyraidd i fywyd bob dydd eich plentyn yn helpu ei system synhwyraidd i ddatblygu ac aeddfedu. Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio’r wybodaeth hon i’ch helpu i gefnogi eich plentyn i fwynhau buddion chwarae synhwyraidd.
Rydym yn argymell eich bod chi’n gwylio ein gweithdy fideo yn gyntaf ar ’Sut mae plant yn defnyddio eu synhwyrau i reoleiddio dysgu a chwarae‘ i roi mwy o wybodaeth i chi am chwarae synhwyraidd.
Mae plant angen ‘diet synhwyraidd’ amrywiol (llawer o synnwyr gwahanol) i’w systemau synhwyraidd ddatblygu ac aeddfedu. Rydym yn argymell defnyddio dull gweithredu ar sail chwarae gan fod hyn yn cyd-fynd yn naturiol â phrofiadau plant, gan gynnwys pethau fel chwarae garw a sgarmesol, blêr ac archwiliol. Bydd darparu amrywiaeth eang o weithgareddau synhwyraidd yn helpu i atal gwrthdyniadau synhwyraidd yn y dyfodol.
Dyma rai gweithgareddau i ddatblygu eich chwarae synhwyraidd. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ond mae’n rhoi rhai syniadau i chi ddechrau arni. Dylech chi gael eich tywys gan yr hyn y mae’ch plentyn yn ei fwynhau. Wrth i chi roi cynnig ar y gwahanol weithgareddau efallai y byddwch chi’n gweld bod rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill a gallwch chi newid y “diet synhwyraidd” yn unol â hynny.
Cyfeiriwch yn ôl at y Gweithdy Fideo Synhwyraidd mor aml â phosibl i adnewyddu neu gasglu strategaethau a thechnegau ychwanegol sy’n gallu eich cefnogi.
Cael ‘blwch cyffyrddol’ gydag amrywiaeth o weadau gwahanol i’w teimlo a chwarae gyda nhw.
Mae rhai syniadau ar gyfer y blwch cyffyrddol yn cynnwys:
Gwneud amser bath yn brofiad rhyngweithiol drwy gynnwys amrywiaeth o deganau gwahanol (rhai sy’n feddal ac yn galed, suddo neu arnofio) a swigod i ddarparu amrywiaeth o ysgogiadau synhwyraidd.
Chwarae blêr ‘sych’ – chwarae mewn tywod sych, pasta, reis neu Styrofoam i ddechrau ac yna ychwanegu dŵr i deimlo sut mae’r gwead yn newid. Claddu teganau i annog chwarae ac archwilio.
Paentio dwylo a thraed
Mae mewnbwn festibwlar yn wybodaeth synhwyraidd sy’n digwydd pan fydd y pen yn symud. Mae gweithgareddau sy’n darparu cylchdroi pen yn arbennig o effro yn ogystal â symudiadau cyflym ac anrhagweladwy.
Mae gweithgareddau festibwlar sy’n fwy llinellol – hynny yw ymlaen ac yn ôl neu’n ochr i ochr – sydd hefyd yn effro, ond yn llai felly na symudiadau cylchdroadol.
Meddwl am y “gyfatebiaeth gwpan” (o’n gweithdy fideo ar ’Sut mae plant yn defnyddio eu synhwyrau i reoleiddio ar gyfer dysgu a chwarae’). Mae angen i ni fod yn ymwybodol y gall mewnbwn festibwlar gael effaith gref iawn ar ein system nerfol ac yn dibynnu ar “faint eich cwpan” mae angen i ni fod yn ymwybodol y gallai gormod o bethau cyffrous / effro achosi i’r cwpan “orlifo”. Mae hyn yn edrych yn wahanol i bob plentyn, ond efallai y byddech chi’n gweld eich plentyn yn mynd yn wirion iawn, yn ddryslyd, yn orfywiog, yn methu arafu, ddim yn gwrando, yn methu bod yn dawel.
Os ydych chi’n gweld hyn, mae eich plentyn wedi cael gormod o fewnbwn festibwlar – gallwch chi reoli hyn trwy gynnig mewnbwn propriodderbyniol gan fod hyn yn lleddfol iawn ac yn rheoleiddiol. Byddwch yn ymwybodol o hyn gan na fyddech chi am gynnig cymaint o’r mewnbwn festibwlar y tro nesaf – neu byddech chi am gynnwys hyn gyda mewnbwn propriodderbyniol.
Er mwyn atal cynnwrf emosiynol, gallwch chi ychwanegu “seibiau” at y gweithgareddau isod. Er enghraifft, chwarae cerfluniau cerddorol gyda saib o bum eiliad wrth ddawnsio neu ofyn i’ch plentyn os yw’n gallu gwneud deg neidr ar y trampét ac yna sefyll yn llonydd fel cerflun am ddeg eiliad.
Mae mewnbwn propriodderbyniaeth yn cael effaith bwyllog ar ein cyrff.
Rydym yn cael gwybodaeth broriodderbyniaeth drwy ein cyhyrau a’n cymalau pan fyddwn yn gwneud gweithgareddau sy’n cynnwys gwthio, tynnu, codi neu wrthsefyll.
Gall symudiadau llinol rheolaidd y pen (e.e. yn ôl ac ymlaen yn hytrach na chylchdroi) hefyd fod yn lleddfol.
I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910.
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH
Rhif Ffôn: 02921 836 910
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.