Rheoli amser sgrin eich plentyn

Mae gan blant a phobl ifanc yn eu harddegau heddiw fwy o fynediad i sgriniau a dyfeisiau nag erioed o’r blaen. Mae sgriniau teledu, ffonau, dyfeisiau gemau a thabledi ac ati yn rhan o’r byd modern ac yn anodd iawn eu hosgoi.

Little girl with headphones on, sitting on a bed watching tablet

Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio’r wybodaeth hon er mwyn eich helpu i ystyried a rheoli amser sgrin eich plentyn a sicrhau cydbwysedd iach o weithgareddau a galwedigaethau.

Sgriniau ar gyfer dysgu

  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio rhyw fath o dechnoleg ar gyfer ysgol a gwaith cartref. Yn y cyfnod clo roedd y rhan fwyaf o addysg ein plant yn digwydd drwy sgriniau!
  • Bydd y rhan fwyaf o blant yn defnyddio sgriniau yn yr ysgol yn ddyddiol. Mae technoleg yn rhoi cyfle gwych i ni gael mynediad at ystod eang o adnoddau drwy glicio botwm.

Sgriniau ar gyfer Chwarae

  • Mae gan y rhan fwyaf o blant sgrin neu ddyfais maen nhw’n ei defnyddio i wylio’r teledu neu chwarae gemau.
  • Mae plant yn cael eu cyflwyno i sgriniau o oedran ifanc ac i rai, chwarae ar sgrin yw eu prif ddull chwarae.
  • Mae sgriniau yn cynnig gwobrau uchel iawn i blant am eu hymdrechion. Nid yw’r dwyster a’r ysgogiad sy’n dod o gemau a fideos cyflym yn debyg i lawer o sefyllfaoedd bywyd go iawn.
  • I lawer o blant sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol, mae sgriniau yn cynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae a allai fod yn anoddach yn y byd go iawn.

Gall sgriniau fod yn llawer o hwyl, gydag amrywiaeth o fanteision. Mae’n bwysig cael y cydbwysedd cywir sy’n addas i’ch plentyn a’ch teulu.

Mae’n ymddangos bod gormod o amser sgrin yn cael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc. Mae’n gysylltiedig â lles a phryderon emosiynol, a materion corfforol fel cysgu’n wael a gordewdra.

Mae plant angen amrywiaeth eang o brofiadau bywyd go iawn er mwyn tyfu a datblygu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Chwarae corfforol a chwarae ‘cwffio’ er mwyn datblygu eu cyrff.
  • Chwarae blêr a rhyngweithio â’r amgylchedd er mwyn datblygu eu systemau synhwyraidd.
  • Cymryd tro a thrafod gyda ffrindiau er mwyn datblygu eu sgiliau cymdeithasol.

Mae’n bosibl bod plant sy’n treulio gormod o amser o flaen sgrin yn colli’r cyfle i gael amrywiaeth gyfoethog o brofiadau chwarae a dysgu sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad iach. Mae hyn yn gallu arwain at nifer o heriau neu anawsterau.

Mae sgriniau yn rhoi boddhad mawr iddyn nhw a bydd rhai plant yn ceisio dewis y rhain cyn dewis gweithgareddau eraill. Mae plant sy’n treulio llawer o amser yn defnyddio sgriniau yn gallu ei chael hi’n anoddach ymgysylltu â theganau a sefyllfaoedd “bywyd go iawn”.

Mae’n bosibl bod plant sy’n treulio llawer o amser o flaen sgriniau yn cael llai o gyfleoedd i chwarae a gwneud ymarfer corff sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad eu cyrff a’u hymennydd.

Ceir canllawiau cenedlaethol sy’n argymell lefelau gweithgareddau plant a phobl ifanc er mwyn cefnogi eu datblygiad a’u cadw’n iach. Mae lefelau gweithgareddau llawer o blant yn is na’r hyn a argymhellir ac efallai bod gormod o amser sgrin yn cyfrannu at hyn.

Cliciwch yma i weld Canllawiau Gweithgaredd Corfforol Plant o dan 5 oed

Cliciwch yma i weld Canllawiau Gweithgaredd Corfforol Plant dros 5 oed a Phobl Ifanc.

Mae treulio amser ar-lein yn lleihau cyfleoedd rhyngweithio ”bywyd go iawn” eich plentyn. Wrth chwarae gydag eraill, mae plant yn dysgu sut i ryngweithio, rhannu a chymryd tro. Mae amser sgrin yn lleihau’r cyfleoedd hyn.

Cliciwch yma am wybodaeth am ‘Sut alla i ddysgu sgiliau cymdeithasol i fy mhlentyn?

Ein system synhwyraidd sy’n gyfrifol am dderbyn a phrosesu gwybodaeth synhwyraidd o’r byd o’n cwmpas a’n cyrff. Mae plant angen amrywiaeth eang o weithgareddau a phrofiadau gwahanol i ddatblygu system synhwyraidd iach ac ymatebol. Mae treulio llawer o amser ar sgrin yn golygu bod plentyn yn cael lefelau uchel iawn o wybodaeth synhwyraidd benodol (yn bennaf gweledol) a llai mewn meysydd eraill. Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi at fideo ar-lein 40 munud sy’n esbonio sut mae ein system synhwyraidd yn gweithio a sut mae plant yn dysgu chwarae a dysgu drwy ddefnyddio eu synhwyrau:

Mae cysylltiad rhwng treulio llawer o amser yn edrych ar sgrin a thrafferthion cysgu. Mae plant angen digon o gwsg i’w helpu i ddysgu, chwarae a datblygu.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a chyngor ar sut mae defnyddio sgrin yn effeithio ar gwsg

Dangoswyd bod bwyta o flaen sgrin yn effeithio ar faint rydyn ni’n ei fwyta a’n gallu i wybod pan fyddwn ni’n llawn a / neu wedi cael digon o fwyd. Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl yn bwyta mwy pan fyddan nhw o flaen sgrin o gymharu â bwyta heb sgrin o’u blaenau.

Pan fyddwn ni’n bwyta o flaen sgrin, mae’n anoddach rhoi sylw i’r hyn yr ydyn ni’n ei fwyta a faint – efallai y bydd plant yn dod yn gyfarwydd â’r arfer o fwyta heb roi sylw i’r bwyd sy’n gallu arwain at orfwyta ac ennill pwysau. Mae sgriniau yn gallu dangos mwy o hysbysebion bwyd sothach i blant hefyd.

  • Ceisiwch annog eich plentyn i beidio â bwyta o flaen sgrin.
  • Gwnewch ardaloedd di-sgrin ar gyfer prydau a byrbrydau er mwyn i’ch plentyn orfod dod oddi wrth y sgrin ac aros oddi wrthi wrth fwyta.
  • Ceisiwch fwyta prydau bwyd fel teulu gyda’ch gilydd heb sgrin yn rheolaidd. Mae’n bwysig bod oedolion yn modelu’r ymddygiad maen nhw eisiau ei weld yn eu plant.
  • Gosodwch esiampl dda gyda’ch defnydd sgrin eich hun
  • Os yw eich plentyn yn ddigon hen, siaradwch gyda’ch gilydd am yr amser y mae’n ei dreulio ar-lein er mwyn iddo ddeall eich pryderon
  • Gwnewch gytundeb teuluol sy’n nodi pryd a pha mor hir y mae eich plant yn gallu defnyddio sgriniau
  • Dewiswch ardaloedd “di-sgrin” yn y cartref – efallai mai ystafell wely’r plentyn fydd un ohonyn nhw, neu’r ystafell fwyta neu’r gegin
  • Defnyddiwch dechnoleg rheolaeth rhieni i osod cyfyngiadau ar fynediad i ddyfeisiau
  • Sicrhewch fod cyfleoedd a gweithgareddau chwarae eraill ar adegau pan fyddwch chi eisiau annog eich plentyn i beidio defnyddio dyfais. Holwch pa weithgareddau neu glybiau ar ôl ysgol sydd yn yr ardal, neu gwnewch amser i chwarae gyda phlant iau sy’n cael trafferth difyrru eu hunain efallai.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content