Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Arthritis

Defnyddir Arthritis i ddisgrifio poen, chwyddo a anystwythder mewn cymal, neu gymalau. Credir bod gan tua 10 miliwn o bobl yn y DU Arthritis. Gall effeithio ar bobl o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Mae gwahanol fathau o arthritis, megis Osteoarthritis ac Arthritis Rhiwmatoid ac mae rhai o’r rhain yn gyflyrau hirdymor.

Gall poen arthritis wneud pob agwedd ar fyw bob dydd yn anodd ar adegau ac effeithio ar allu unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau y maen nhw am eu gwneud. Gall symptomau Arthritis amrywio o ddydd i ddydd. Mae unigolion sy’n byw gydag Arthritis yn sylwi ar welliant yn eu symptomau pan fyddant yn deall eu cyflwr yn well, yn defnyddio technegau rheoli ac yn cynnal eu llesiant cyffredinol.

I ddarganfod mwy am y gwahanol fathau o arthritis cliciwch isod:

Os ydych yn teimlo’n bryderus, wedi’ch llethu neu’n cael trafferth ymdopi, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu a all eich cyfeirio at y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol perthnasol.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content