Mae osteoarthritis yn gyflwr cyffredin iawn sy’n gallu effeithio ar unrhyw gymal yn y corff. Mae’n fwyaf tebygol o effeithio ar y cymalau sy’n dal y rhan fwyaf o’n pwysau, fel y pengliniau a’r traed. Mae cymalau yr ydym yn eu defnyddio llawer mewn bywyd bob dydd, megis cymalau’r dwylo hefyd yn cael eu heffeithio.
Mewn cymal iach, mae haen o feinwe caled, ond llyfn a llithrig (a elwir yn gartilag) yn gorchuddio wyneb yr esgyrn ac yn eu helpu i symud yn rhydd yn erbyn ei gilydd. Pan fydd cymal yn datblygu osteoarthritis, mae rhan o’r gorchudd yn teneuo ac mae’r asgwrn yn mynd yn fwy garw. Mae hyn yn golygu nad yw’r cymal yn symud mor esmwyth ag y dylai.
Gall y newidiadau i’r cymal weithiau achosi poen, chwyddo neu anhawster wrth symud y cymal o ddydd i ddydd. Yn aml, gall y symptomau hyn fod yn ysgafn ac yn hawdd eu rheoli, ond, mewn rhai achosion gall hyn gael effaith ar fywyd bob dydd.
Gall Gweithwyr Iechyd Proffesiynol wneud diagnosis o osteoarthritis gydag archwiliad corfforol heb fod angen pelydr-X, os:
Er nad oes gwellhad i osteoarthritis eto, mae llawer o driniaethau a all helpu i leddfu’r symptomau a’ch galluogi i fyw eich bywyd. Gallwch reoli eich osteoarthritis yn aml heb fod angen triniaethau meddygol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod eang o wasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd a allai eich helpu i reoli eich osteoarthritis. Mae’r rhain yn cynnwys: cyngor addysg a rheoli hunangymorth sydd i’w weld yn y dolenni isod neu efallai y cewch eich cyfeirio gan eich Gweithiwr Iechyd Proffesiynol at un o’n gwasanaethau Therapi’r Dwylo, Ffisiotherapi neu Reoli Pwysau lleol.
Os ydych yn dal i deimlo bod eich symptomau’n gysylltiedig ag osteoarthritis ac angen asesiad ffurfiol, gwnewch apwyntiad gyda’ch Meddyg Teulu neu Weithiwr Iechyd Proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.