ESCAPE pain ar gyfer Cefnau
Galluogi Hunanreoli ac Ymdopi â Phoen Arthritig gan ddefnyddio Ymarfer Corff (ESCAPE)
Mae ESCAPE-pain yn rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl sydd â phoen cronig yn y cymalau. Mae’r rhaglen yn integreiddio hunanreoli addysgol a strategaethau ymdopi gyda threfn ymarfer corff sydd wedi’i unigoli ar gyfer pawb sy’n ei defnyddio.

Sut mae gweithdai ESCAPE Pain yn helpu pobl yng Nghaerdydd a’r Fro?
Mae’r rhaglen ESCAPE-pain yn helpu i ddeall eich cyflwr, yn dysgu pethau syml i chi y gallwch eu gwneud i’ch helpu eich hun ac yn mynd â chi drwy raglen ymarfer corff flaengar i’ch helpu i reoli eich poen yn well.
Ni fydd y rhaglen yn gwella eich poen yn llwyr, ond ei nod yw lleihau eich poen, gwella’ch gweithrediad corfforol, yn ogystal â’ch hyder yn eich gallu i reoli eich cyflwr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig dwy raglen ESCAPE-pain ar wahân:
- ESCAPE-pain ar gyfer Cefnau – wedi’i gynllunio’n benodol er budd pobl â phoen cefn parhaus gan roi’r sgiliau a’r technegau i chi hunanreoli eich poen cefn.
- ESCAPE-pain ar gyfer cluniau/pengliniau – wedi’u cynllunio’n benodol er budd pobl ag arthritis y glun a’r pen-glin. I gael gwybod mwy am ESCAPE-pain ar gyfer arthritis y glun neu’r pen-glin cliciwch yma.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen ESCAPE-pain yn gyffredinol
Beth yw’r Rhaglen ESCAPE-pain ar gyfer poen Cefn?
- Mae’r rhaglen yn 6 wythnos o hyd
- Byddwch yn mynychu 2 ddosbarth bob wythnos (cyfanswm o 12 dosbarth)
- Trafodaeth grŵp 15-20 munud ar bwnc penodol sy’n ymwneud â phoen cefn
- 30-40 munud o wahanol ymarferion a gynlluniwyd i wella eich symudiad a’ch gweithrediad
- Gofynnir i chi lenwi holiadur cyn ac ar ôl i chi gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn cael eich canlyniadau unigol eich hun, a fydd yn ddefnyddiol i weld faint o gynnydd rydych wedi’i wneud.
Ble alla i fynychu ESCAPE-pain ar gyfer Poen Cefn?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig Rhaglen ESCAPE-pain ar gyfer poen cefn yn y lleoliadau canlynol:
Canolfan Hamdden y Dwyrain
- Dydd Llun a Dydd Mercher 14:30 – 15:30
Canolfan Hamdden y Gorllewin
- Dydd Mawrth a Dydd Iau 12:00 – 13:00
Canolfan Hamdden Y Barri
- Dydd Mawrth a Dydd Gwener 10:00 – 11:00
Canolfan Hamdden y Penarth
- Dydd Llun a Dydd Iau 09:00 – 10:00
Sut ydw i'n cyfeirio fy hun?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r rhaglenni uchod, llenwch y ffurflen gyfeirio isod.
Bydd ffisiotherapydd yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen, ac i archebu eich lle arni.
Hefyd yn yr adran hon
Sesiynau ESCAPEE
Mae digwyddiadau ESCAPEE yn sesiynau ymarfer corff dilynol i bobl sydd wedi cyflawni’r rhaglen Escape Pain ar gyfer poen clun, pen-glin neu gefn. Mae croeso i chi alw heibio a chymryd rhan.
Caerdydd, CF3 4DN

Penarth, CF64 2NS United Kingdom


Y Barri, CF63 4JJ United Kingdom
