Sgrinio
Ydych chi’n amau eich bod wedi torri asgwrn?
Ydych chi’n methu symud rhan y corff a anafwyd neu roi pwysau arni neu ydych yn methu cerdded?
Os ateboch chi ydw i’r naill neu’r llall, ffoniwch GIG 111.
Oes gennych chi gymal poenus, poeth, chwyddedig?
Ydych chi’n teimlo gwendid sydyn neu un sy’n cynyddu’n gyflym mewn un neu fwy o rannau o’ch corff? Gall hyn fod gyda neu heb newid mewn ymdeimlad ee. Pinnau bach neu ddiffyg teimlad.
Os ateboch ydw i unrhyw un o’r rhain, ffoniwch eich meddyg teulu heddiw.
Ydych chi’n cael unrhyw anhawster i basio wrin neu deimlo na allwch wagio eich pledren yn llawn? A oes gennych unrhyw anymataliaeth coluddyn (wedi trochi eich hun) neu ddiffyg teimlad o amgylch eich anws (pen ôl) neu’ch organau rhywiol?
Os ateboch ydw, rhaid i chi gysylltu â CAV 24/7 ar unwaith ar 0300 10 20 247.