Darperir ein holl wasanaethau yn unol â gweledigaeth y Bwrdd Iechyd a elwir yn Llunio Ein Lles i’r Dyfodol a’n gwerthoedd fel Bwrdd Iechyd.
Adran ffisiotherapi
Byddwch yn gweld un o’n harbenigwyr cyhyrysgerbydol (MSK) yn yr adran. Byddan nhw’n gallu cynnig yr ystod lawn o brosesau asesu. Bydd angen i chi roi amser o’ch diwrnod i deithio yno ac yn ôl.
Trwy weithio gyda’ch gweithwyr iechyd proffesiynol i benderfynu ar y camau gorau o ran ymgynghoriadau a chymorth, byddwch yn
Yn seiliedig ar yr ymgyrch ‘Gofyn 3 Chwestiwn’ a gafodd ei ddatblygu gan y Sefydliad Iechyd, ein hargymhelliad yw bod cleifion yn ‘Gofyn 3 chwestiwn’ bob tro wrth drafod eu triniaeth.
Y tri chwestiwn yw:
Yn aml, fe welwch fod angen gwneud dewisiadau am eich gofal iechyd. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi:
Dylai eich dewis chi fod yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Os bydd gofyn i chi wneud dewis, efallai y bydd gennych gwestiynau eraill yr hoffech eu gofyn. Gall siarad am eich dewisiadau gyda’ch teulu neu eich ffrindiau, ac ysgrifennu rhestr o’r cwestiynau ar gyfer eich apwyntiad, fod o gymorth.
Yr ymgynghoriad
Yn yr ymgynghoriad cychwynnol, ein nod yw neilltuo digon o amser i’n galluogi i gwblhau’r holl gamau canlynol. Weithiau nid yw’n bosibl cwblhau’r holl gamau ac nid ydym am ruthro hyn gan mai dyma’r rhan bwysicaf o’ch gofal. Pan fydd llawer i’w wneud, neu os oes angen amser arnoch i ystyried eich opsiynau a gwneud penderfyniadau, byddwn yn trefnu ail ymgynghoriad er mwyn cwblhau’r broses. Rydym yn cynnig asesiad cyfannol sy’n ystyried eich anghenion a’ch dewisiadau unigol.
Ar ôl cyrraedd, efallai bydd angen i chi lenwi holiadur byr. Mae hon yn rhan bwysig iawn o’r ymgynghoriad ac mae’n ein helpu i’ch cael chi i’r man cywir.
Mae hyn yn dechrau gyda sgwrs. Drwy ddweud eich stori wrthym, yr hanes sydd wedi eich arwain atom a’r pethau rydych yn chwilio am gymorth ar eu cyfer, gallwn ddeall sut y gallwn eich helpu orau. Bydd hyn yn cynnwys eich disgrifiad o’r broblem a’ch profiad. Yn aml, mae angen i ni hefyd ystyried pethau eraill a allai fod yn gysylltiedig, megis problemau iechyd eraill, ffactorau cymdeithasol neu ffordd o fyw, a sut y gallai’r triniaethau y gallwn eu cynnig ffitio mewn i’ch bywyd.
Os byddwch yn cydsynio, byddwn yn cynnal archwiliad corfforol personol i chi sy’n ein galluogi i brofi iechyd biolegol eich cyhyrau, eich cymalau a’ch nerfau.
Byddwn yn rhoi crynodeb i chi o’ch stori, eich meddyliau, ein canfyddiadau, a gyda’n gilydd yn dod i gytundeb am yr hyn sy’n digwydd (diagnosis) a pham.
Os yw’n briodol cael profion pellach, megis pelydr-X, sganiau neu brofion gwaed, byddwn yn trafod hynny gyda chi ac yn trefnu’r rhai sydd wedi’u cytuno.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am yr opsiynau triniaethau sydd ar gael i chi ac yn gweithio gyda chi i rannu penderfyniad ynglŷn â sut yr hoffech symud ymlaen.
Darllenwch fwy am eich rôl wrth wneud penderfyniadau ar wefan Cymdeithas y Cleifion.
Byddwn yn cytuno â chi ar y strategaethau hunanreoli unigol yr hoffech eu dechrau a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu os ydych yn dymuno gwneud newidiadau cadarnhaol o ran eich ymddygiad.
Os bydd ein penderfyniad ar y cyd yn gofyn am atgyfeiriad i wasanaeth arall neu arbenigedd meddygol, fel Podiatreg, Orthoteg, Rhewmatoleg neu lawdriniaeth Orthopedig, byddwn yn trefnu hynny i chi.
Bydd un o’n harbenigwyr MSK yn eich ffonio ar yr amser a drefnwyd. Byddan nhw’n gallu cael sgwrs dda a manwl, ond nid yw’n bosibl cynnig archwiliad llawn ar y ffôn. Dim ond amser yr alwad ffôn y bydd angen i chi ei roi o’ch diwrnod ac ni fydd angen i chi deithio.
Os na allwch fynychu un o’n hadrannau ar gyfer apwyntiad wyneb yn wyneb, mae’n bosibl cynnal apwyntiad rhithwir. Gallwch ofyn am hyn gyda’r staff gweinyddol pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad. Ar yr amser a drefnwyd ar gyfer apwyntiad, bydd clinigwr i ddechrau yn ffonio’r rhif rydych wedi’i ddarparu ac yn siarad â chi am sut i barhau ag ymgynghoriad rhithwir preifat.
Unwaith y bydd ar yr alwad fideo, bydd y clinigwr yn gallu cael sgwrs dda gyda chi ac archwilio’r pethau sylfaenol, ond ni ellir cynnal archwiliad corfforol llawn. Efallai y bydd y clinigwr yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor ac ymarferion i chi eu gwneud cyn trefnu i’ch gweld eto os oes angen. Efallai y bydd angen i’r clinigwr ofyn i chi ddod i mewn i’w gweld wyneb yn wyneb yn un o’r adrannau.
Byddwn yn cytuno â chi ar unrhyw gynllun triniaeth dilynol neu barhaus ac yn trefnu apwyntiadau’n briodol.
Byddwn yn darparu adnoddau i’ch galluogi i ddechrau eich cynllun adsefydlu neu reoli.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.