Ein Ffisiotherapyddion Arbenigol Cyhyrsgerbydol (MSK)
Mae ein staff i gyd yn Ffisiotherapyddion HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) siartredig cofrestredig. Bydd gan bob un ohonynt gymhwyster BSc (Anrh) Ffisiotherapi, a bydd gan lawer ohonynt hyfforddiant ôl-raddedig i Lefel MSc a PhD.
Rydym yn gweithio mewn timau lle mae ein Hymgynghorwyr, ein harweinwyr Clinigol a’n harbenigwyr Clinigol yn arbenigwyr hyfforddedig mewn diagnosis a thriniaeth cyhyrsgerbydol, gydag ystod eang o sgiliau a galluoedd, gan gynnwys:
- Ymgynghoriadau cyhyrsgerbydol arbenigol
- Archwilio corfforol arbenigol
- Gofyn am brofion a delweddu priodol
- Diagnosis
- Esboniadau, addysg a dealltwriaeth
- Therapi ymarfer corff
- Therapïau â llaw (fel llawdriniad a chael rhannau o’r corff i symud )
- Strategaethau adsefydlu, megis cynyddu graddol ac amlygiad graddedig
- Adsefydlu ar sail seicolegol fel therapi gwybyddol sy’n seiliedig ar ymddygiad
- Therapi pigiadau
- Rhagnodi anfeddygol ar gyfer rhai meddyginiaethau
Mae ein harbenigwyr yn cynnal clinigau lle maent yn cefnogi ein cydweithwyr iau, felly byddwch mewn dwylo diogel drwy gydol yr amser y byddwch yn derbyn ein gwasanaeth.
Rydym yn gweithio’n agos gyda llawer o wasanaethau eraill i gyflawni ein huchelgais o wasanaeth cyfannol. Gall y rhain gynnwys:
- Sector elusennau
- Sector hamdden
- Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
- Therapïau (Podiatreg, Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Seicoleg)
- Meddygaeth (Meddygon Teulu, Rhiwmatolegwyr, Llawfeddygon Orthopedig, Timau Poen)