Triniaethau
- Therapïau llaw ac ymarfer corff cyfun
- Hydrotherapi
- Adsefydlu sy’n seiliedig ar seicoleg
- Cyfweld ysgogol
- Newid ymddygiad
- Yn ôl ar Waith
- Gwasanaeth rheoli poen
- Rheoli pwysau oedolion
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i ddarparu triniaethau gwerth uchel, effeithiol ac effeithlon. Dangoswyd bod popeth a gynigiwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydym yn defnyddio canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol i lywio pa driniaethau rydym yn eu cynnig – er enghraifft NICE ac OARSI
Bydd triniaethau mwy newydd sydd eto i’w profi’n llawn yn cael eu cynnig fel rhan o arbrawf ymchwil priodol yn unig. Pan fydd gennym ni arbrawf yn rhedeg byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cynnig ymuno, yn gwbl wybodus ac yn cydsynio i gymryd rhan.
Ymyriadau na allwn eu cynnig
Ni chynigir unrhyw driniaethau y dangoswyd eu bod naill ai’n anniogel neu’n aneffeithiol gan CAVUHB. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at y rhain fel ‘Peidiwch â’u Gwneud’ neu ‘ymyriadau na chânt eu defnyddio fel arfer’. Er y gall y rhain gael eu cynnig gan ddarparwyr eraill, ni fyddant ar gael trwy Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hyd nes y cânt eu hystyried yn ddiogel ac effeithiol.
Er enghraifft:
- Nid ydym yn cynnig aciwbigo na therapi pigiad ar gyfer poen amhenodol yng ngwaelod y cefn
- Nid ydym yn cynnig tylino fel triniaeth ar ei phen ei hun – dim ond fel rhan o becyn adsefydlu