Os ydych dros bwysau, gall colli hyd yn oed cymharol ychydig o bwysau wella eich iechyd cyffredinol. Gall colli 5-10% o bwysau gyfrannu at:
- Pwysedd gwaed is a cholesterol is
- Atal a rheoli diabetes
- Gwella problemau gyda’r cymalau a phroblemau anadlu
- Teimlo’n fwy heini, yn iachach ac yn fwy hyderus
Ewch i wefan y GIG i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch wneud newidiadau i’ch deiet a sicrhau pwysau iach, neu gael awgrymiadau a chyngor gan Gymdeithas Ddietegwyr y DU.
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch drefnu i weld dietegydd drwy gwblhau a chyflwyno’r ffurflen hunangyfeirio hon.