Lleihau’r risg o strôc drwy fwyta’n iach
Dylech chi geisio bwyta deiet iach a chytbwys i leihau eich risg o gael strôc.
Mae’r egwyddorion yn seiliedig ar ddull deiet Môr y Canoldir.
Mae deiet traddodiadol Môr y Canoldir yn cynnwys amrywiaeth o ffrwythau a llysiau, grawn cyflawn, pysgod, ffa, codlysiau, cnau a hadau, rhai cynhyrchion llaeth ac olewau planhigion a llai o gig coch/wedi’i brosesu, braster dirlawn, halen a siwgr.

Er mwyn eich helpu i leihau’r risg o strôc:
- Ceisiwch fwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd

- Dylai bwydydd startsh fod yn draean o’ch deiet dyddiol. Dewiswch fara, grawnfwydydd, reis, pasta, grawn a chapattis grawn cyflawn.
- Anelwch at gynnwys un gyfran o brotein ym mhob pryd, e.e. pysgod, codlysiau, cnau a hadau, cig heb lawer o fraster ac amnewidion cig. Mae maint dogn tua maint cledr eich llaw.
- Dylech chi gael llai o laeth llawn braster, hufen, caws a chig brasterog, cigoedd wedi’u prosesu a brasterau solet fel menyn, margarîn, ghee ac olew cnau coco. Dewiswch fathau gyda llai o fraster.
- Cyfyngwch ar halen i lai na llond llwy de bob dydd (6g). Mae halen i’w gael yn aml mewn bwydydd parod a bwydydd sydd wedi’u prosesu.
Yn y fideo isod mae Marie Price, Deietegydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn esbonio egwyddorion y canllaw bwyta’n dda
Some of this advice above may not be suitable for you if you are experiencing swallowing difficulties (dysphagia) or weight loss. If you have been diagnosed with dysphagia and/or are experiencing unintentional weight loss, then please use this form to request a referral to a dietitian for individual advice and support.
Mwy o gymorth
Os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’ch deiet, neu os hoffech gael help i reoli eich pwysau (naill ai os ydych chi dan bwysau neu dros bwysau), yna gofynnwch i’ch Meddyg Teulu neu eich tîm Strôc eich cyfeirio at ddeietegydd am gyngor personol.