Ffisiotherapi
Mae ffisiotherapi yn helpu i adfer symudiad a gweithrediad pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun.
Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl trwy symud ac ymarfer corff, therapi llaw, addysg a chyngor.

Gallant eich helpu i gynnal eich iechyd a rheoli poen, gan eich galluogi i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl.
Mae ffisiotherapi yn broffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac mae’n cymryd agwedd ‘person cyfan’, sy’n cynnwys eich ffordd o fyw. Yn greiddiol i’ch cyfranogiad yn eich gofal eich hun, trwy addysg, ymwybyddiaeth, grymuso a chyfranogiad yn eich dewis driniaeth.
Ein harbenigeddau
Mae ein holl ffisiotherapyddion wedi’u cofrestru’n broffesiynol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).