Ffisiotherapi Trawma
Mae’r gwasanaeth ffisiotherapi trawma yn gweithio gyda chleifion sydd yn yr ysbyty yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau yn dilyn trawma sydd wedi arwain at sawl math o anaf gan gynnwys: torri esgyrn, anafiadau i gyhyrau, tendonau, gewynnau a nerfau. Mae’r ffisiotherapyddion trawma yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i adsefydlu cleifion i lefel lle gallan nhw fynd adref.
I gael gwybodaeth gyffredinol am dorri esgyrn a sut i’w rheoli, cliciwch ar y dolenni isod:
Gwella yn yr ysbyty:
- Bydd bod yn egnïol yn yr ysbyty a chodi a gwisgo pan fyddwch yn gallu yn helpu i gyflymu eich adferiad a gall wneud eich arhosiad yn yr ysbyty yn fyrrach.
- Bydd bwyta deiet iach yn helpu i wella esgyrn a meinweoedd meddal er mwyn cyflymu’ch adferiad.
- Gall lleihau neu roi’r gorau i ysmygu gael effaith enfawr ar wella ac adferiad.
Gwella gartref:
Ar ôl i chi gael mynd adref, mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y cyfarwyddiadau a’r ymarferion sydd wedi’u rhoi i chi gan eich ffisiotherapydd yn yr ysbyty.
Efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am fathau eraill o ffisiotherapi er mwyn parhau â’ch adsefydlu. Efallai y byddwch yn cael ffisiotherapi gartref neu efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio ymlaen at ffisiotherapi cleifion allanol cyhyrysgerbydol. Os nad ydych wedi cael eich cyfeirio am ffisiotherapi pellach, bydd hyn yn cael ei adolygu pan fyddwch yn mynychu eich apwyntiad clinig trawma.
Mae’r dolenni isod yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am gymorth ychwanegol i bobl hŷn yn y gymuned a llogi offer o’r Groes Goch:
Hefyd yn yr adran hon
Dolenni Defnyddiol
- Cynhalwyr
- Atal cwympiadau
- Therapi Galwedigaethol
- Canolfan Adsefydlu Anafiadau Madruddyn y Cefn Cymru
- Canllawiau fideo ar osod coleri a bresys sbinol
- Canllawiau fideo ar osod bresys
- Sut i ddefnyddio cymhorthion cerdded
- Gwasanaeth Cymhorthion Cerdded
- Gwasanaeth cadeiriau olwyn (a gynhelir gan y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS))