Gwella ar ôl torri asgwrn y glun
Ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i dorri asgwrn y glun, bydd y prif grwpiau o gyhyrau sy’n cefnogi cymal eich clun yn wannach nag arfer. Gall hyn gael effaith enfawr ar eich bywyd bob dydd o ran sut rydych yn cerdded, eich gallu i fynd i mewn ac allan o’r gwely a’ch gallu i symud o gwmpas yn gyfforddus.
Ein nod fel ffisiotherapyddion yw eich annog a’ch helpu i gryfhau’r cyhyrau mawr hyn, gan roi gwell cynhaliaeth i gymal eich clun, gan eich galluogi i roi mwy o bwysau drwy eich coes ac yn y pen draw wella’r ffordd y gallwch gerdded a symud o gwmpas.
I wneud hyn, bydd angen i chi wneud ymarferion rheolaidd a phenodol y bydd eich ffisiotherapydd wedi eu dechrau gyda chi yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Mae’n hynod o bwysig eich bod yn parhau â’r ymarferion hyn pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o’r ysbyty er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr adferiad gorau posibl.
Bydd y fideos canlynol yn eich helpu i wneud eich ymarferion bob dydd. Cliciwch ar y dolenni isod a dilynwch y rhaglen ymarfer corff. Rydym yn argymell eich bod yn anelu at gwblhau’r fideo ymarfer corff 2 i 3 gwaith y dydd.
Os byddwch yn teimlo eich bod yn cwblhau’r rhaglen ymarfer corff yn rhwydd, gwnewch y fideo eto gan ailadrodd pob ymarfer nifer fwy o weithiau a gofynnwch am arweiniad pellach gan ffisiotherapydd er mwyn symud tuag at ddychwelyd i’ch gweithgareddau neu ymarfer corff arferol.
Fideo ymarfer corff y glun:
Fideo ymarfer corff y glun pellach:
- Cliciwch yma am wybodaeth fanylach ar sut i gwblhau pob ymarfer.
- Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr anaf i’ch clun, eich llawdriniaeth a’ch adferiad ar daflen y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Clun (NHFD).