Os ydych chi wedi cael canllaw cynnal pwysau penodol, megis cynnal pwysau rhannol (PWB) neu ganllaw heb gynnal pwysau (NWB) am gyfnod penodol o amser, mae’n rhaid i chi aros nes bydd eich Ymgynghorydd neu’ch Ffisiotherapydd yn dweud wrthych y gallwch chi roi mwy o bwysau ar eich coes.
Gofynnwch am arweiniad gan eich Ffisiotherapydd bob amser os nad ydych chi’n siŵr sut a phryd i gerdded mwy.
Sut i ddefnyddio baglau penelin – Cynnal pwysau llawn (FWB):
Yn aml iawn, dyma’r math cyntaf o gerdded y byddwch chi’n ei ddysgu gyda baglau ar ôl llawdriniaeth, anaf neu oherwydd poen neu wendid mewn un goes.
Patrwm osgo 2 bwynt gyda 2 fagl penelin neu 2 ffon:
Dyma batrwm cerdded mwy naturiol sy’n aml yn dod ar ôl y patrwm osgo camu drwodd.
Sut i ddefnyddio 1 fagl penelin neu ffon:
Dyma’r math o gerdded sy’n cael ei argymell yn aml ar ôl defnyddio 2 fagl ar ôl llawdriniaeth neu anaf.
Mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol o gerdded os oes gennych chi un goes sy’n wannach neu sy’n methu dal cymaint o bwysau â’r goes arall.
Sut i ddefnyddio baglau penelin – heb gynnal pwysau (NWB):
Byddwch wedi cael cyngor i ddefnyddio baglau heb gynnal pwysau ar un goes os yw’ch Ymgynghorydd am ddiogelu anaf, toriad neu weithdrefn lawfeddygol lle mae strwythur wedi’i atgyweirio.
Mae’n bwysig eich bod chi’n dilyn cyfarwyddiadau eich ymgynghorydd. Os byddwch chi’n rhoi pwysau ar y goes sydd wedi’i hanafu neu sydd wedi cael llawdriniaeth a chithau wedi cael cyngor i beidio â gwneud hynny, efallai y byddwch chi’n gwneud mwy o ddrwg i’r goes.
Sut i ddefnyddio baglau penelin – Cynnal pwysau rhannol (PWB):
Mae cynnal pwysau rhannol yn fath o gerdded sy’n cael ei ddefnyddio i ddiogelu anaf fel toriad neu ar ôl gweithdrefn lawfeddygol pan fydd angen diogelu strwythur.
Fel arfer, bydd rhaid i chi gynnal pwysau rhannol am gyfnod penodol. Dylech chi barhau i gynnal pwysau rhannol nes bod eich Ymgynghorydd neu Ffisiotherapydd yn dweud wrthych y gallwch chi roi mwy o bwysau ar eich coes.
Mae’n rhaid rhoi pob cymhorthyn cerdded yn ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar ôl gorffen eu defnyddio. Gellir adnewyddu offer er mwyn i gleifion eraill gael eu defnyddio. Mae mwy o wybodaeth ar sut i ddychwelyd eich cymhorthion cerdded ar ein tudalen gwasanaeth cymhorthion cerdded.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.