Cyngor ar ddefnyddio eich prosthesis
Mae’r hwn yn darparu gwybodaeth ynglŷn â defnyddio eich prosthesis [aelod artiffisial]. Bydd eich Prosthetydd a’ch Ffisiotherapydd yn egluro’r rhan fwyaf o’r wybodaeth pan fyddwch yn dysgu defnyddio eich prosthesis. Yn aml bydd angen cofio llawer, a nod y llyfryn hwn yw ailadrodd y wybodaeth hon fel y gallwch ddod o hyd iddi yn y dyfodol pe bai angen.
Efallai y bydd y llyfryn hwn hefyd yn helpu i ateb cwestiynau eraill a allai fod gennych, megis ail-ddechrau gyrru neu gael cymorth yn eich cartref. Yng nghefn y llyfryn ceir rhestr o gyfeiriadau a rhifau cyswllt defnyddiol, yn cynnwys cyfeiriadau a rhifau cyswllt ar gyfer y Ganolfan.
Cliciwch ar y teitl isod i weld y wybodaeth.
Sut i osod y prosthesis a’i dynnu i ffwrdd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut i osod eich prosthesis a’i dynnu i ffwrdd, gofynnwch i’ch Ffisiotherapydd neu’ch Prosthetydd. Bydd y cyfarwyddiadau’n wahanol yn dibynnu ar lefel y trychiad a’r math o brosthesis yr ydych yn ei ddefnyddio.
Beth yw ffitiad da?
Trychiad uwchben y pen-glin:
Dylech deimlo eich bod eistedd ar ymyl cefn y soced. Ni ddylai’r soced fod yn gwasgu i mewn i’ch morddwyd, naill ai yn y blaen neu rhwng eich coesau.
Dylai’r gwregys fod yn gadarn o amgylch eich pelfis a’r strap ysgwydd, os ydych yn defnyddio un, yn gadarn dros eich ysgwydd gyferbyn.
Trychiad o dan y pen-glin:
Dylech deimlo eich bod yn derbyn pwysau ar yr ardal ychydig dan badell eich pen-glin, ar bob ochr asgwrn eich grimog a’ch cyhyr croth y goes yn y cefn. Ni ddylech fod yn cael poen ar ddiwedd eich aelod sy’n weddill.Os oes strap uwchben eich pen-glin dylai fod yn gadarn ond hefyd dylech allu rhoi bys oddi tano neu fe all effeithio ar eich cylchrediad gwaed. Os oes gennych lawes pen-glin i ddal eich prosthesis yn ei le, dylid tynnu hon uwchben eich pen-glin fel bod yr ymyl uchaf yn cyrraedd hanner ffordd i fyny eich morddwyd. Ni ddylai fod unrhyw blygiadau yn llawes y pen-glin pan fydd wedi’i thynnu i fyny.
Ar gyfer prosthesis a ddelir yn ei le gan leiniwr sydd â phin
Os oes gennych leiniwr sydd â phin bydd rhaid i chi weithio ychydig i wthio eich aelod sy’n weddill i mewn i’r soced. Dylech fod yn gallu cael bron pob un clic pan fyddwch yn ei osod tra’n eistedd. Bydd cliciau ychwanegol pan fyddwch yn dechrau cerdded yn rhywbeth arferol. Gyda’r prosthesis hwn dylech deimlo eich bod yn cynnal y pwysau dros y cyfan o’r aelod sy’n weddill yn hytrach na mannau penodol.
Sut allaf addasu’r sanau er mwyn gwella ffitiad fy mhrosthesis?
Trychiad uwchben y pen-glin:
Ychwanegwch hosan(au):
- os ydych wedi llithro’n rhy bell i’r soced a bod y prosthesis yn teimlo’n fyr;
- os cewch anesmwythdra yn eich morddwyd;
- os bydd y prosthesis yn teimlo’n rhydd;
- os ydych yn teimlo aer yn cael ei wasgu o’r soced wrth i chi gerdded.
Tynnwch hosan(nau) i ffwrdd:
- os nad ydych i mewn yn llwyr yn y soced a bod y prosthesis yn teimlo’n hir;
- os nad ydych yn eistedd ar ymyl cefn y soced;
- os yw’r prosthesis yn teimlo’n rhy dynn.
Trychiad o dan y pen-glin:
Ar gyfer prosthesis a ddelir yn ei le gyda strap neu lawes pen-glin
Ychwanegwch hosan(nau):
- os ydych wedi llithro’n rhy bell i’r soced a bod y prosthesis yn teimlo’n fyr;
- os ydych yn teimlo pwysau ar ymyl waelod padell eich pen-glin;
- os yw’r prosthesis yn teimlo’n rhydd;
- os ydych yn teimlo pwysau ar ddiwedd eich aelod sy’n weddill wrth gerdded;
- os ydych yn teimlo eich aelod sy’n weddill yn symud i fyny ac i lawr y tu fewn i’r soced wrth i chi gerdded
Tynnwch hosan(nau) i ffwrdd:
- os nad ydych i mewn yn llwyr yn y soced a bod y prosthesis yn teimlo’n hir;
- os ydych yn teimlo pwysau yn is na’r gewyn meddal o dan badell eich pen-glin;
- os yw’r prosthesis yn teimlo’n rhy dynn.
Ar gyfer prosthesis a ddelir yn ei le gan leiniwr sydd â phin
Ychwanegwch hosan(au):
- os cewch holl gliciau’r pin wrth eistedd a bod y prosthesis yn mynd ymlaen yn rhy hawdd;
- os yw’r prosthesis yn teimlo’n rhydd;
- os ydych yn teimlo pwysau ar ddiwedd eich aelod sy’n weddill wrth gerdded;
- os yw’r prosthesis yn cylchdroi wrth i chi gerdded.
Tynnwch yr hosan(nau) i ffwrdd:
- os nad ydych i mewn yn llwyr yn y soced a bod y prosthesis yn teimlo’n hir;
- os na allwch gael holl gliciau’r pin unwaith y byddwch yn sefyll;
- os yw’r prosthesis yn teimlo’n rhy dynn.
Cofiwch y bydd eich aelod sy’n weddill yn parhau i newid siâp a maint yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf a bydd yn rhaid i chi ganiatáu ar gyfer yr amrywiadau hyn drwy newid faint o sanau y byddwch yn eu gwisgo. Gallwch ddisgwyl gweld newidiadau hyd yn oed drwy gydol y dydd.
Am faint ddylwn i wisgo’r prosthesis?
Gallwch wisgo’r prosthesis am tua 3 awr y dydd am yr ychydig wythnosau cyntaf. Yna cynyddwch gan hanner awr bob dydd hyd nes eich bod yn gwisgo’r prosthesis trwy’r dydd.
Os cewch broblemau gyda’ch aelod sy’n weddill efallai y cewch gyfarwyddiadau gwahanol. Os felly, dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir i chi.
Yn ystod y 2-3 mis cyntaf mae’n bwysig gwirio’r croen ar eich aelod sy’n weddill yn rheolaidd, gan y bydd yn cymryd amser i ddod i arfer â gwisgo’r prosthesis drwy’r dydd.
A oes yn dal angen i mi ddefnyddio’r Juzo (hosan gywasgu) unwaith y bydd gennyf fy mhrosthesis?
Oes. Yn ystod y dydd pan nad ydych yn gwisgo’r prosthesis dylech wisgo eich Juzo er mwyn helpu i gadw siâp a maint eich aelod sy’n weddill. Efallai y bydd hyn pan fyddwch yn anhwylus neu pan fyddwch yn raddol yn dod i arfer â gwisgo eich prosthesis drwy’r dydd.
Ni ddylech wisgo eich Juzo yn y nos.
Unwaith y byddwch yn gwisgo eich prosthesis drwy’r dydd ni fydd angen i chi wisgo eich Juzo ond cadwch hi’n ddiogel rhag ofn y byddwch ei hangen yn y dyfodol.
Beth ddylwn ei wneud os caf bothell neu ardal dyner ar yr aelod sy’n weddill?
Peidiwch â gwisgo’r prosthesis a chysylltwch â’r Ganolfan i gael cyngor. Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad i weld aelod o’r Staff Nyrsio, a Phrosthetydd os bydd angen. Peidiwch â gwisgo Juzo hyd nes y cynghorir chi i wneud hynny gan y Staff Nyrsio.
Beth ddylwn ei wneud os bydd fy aelod sy’n weddill yn chwyddo?
Os bydd eich aelod sy’n weddill yn chwyddo, bydd hyn yn newid ffitiad eich prosthesis. Os nad ydych yn gallu gosod eich prosthesis, yn gyntaf ceisiwch leihau nifer y sanau yr ydych yn eu gwisgo neu defnyddiwch sanau teneuach.
Os ydych yn dal i fethu â rhoi eich prosthesis ymlaen, gwisgwch eich Juzo am awr, ac yna rhowch gynnig arall. Os oes gennych drychiad o dan y pen-glin, gallwch hefyd godi eich aelod sy’n weddill ar fwrdd stwmp eich cadair olwyn neu ar stôl.
Os ydych wedi ceisio newid y sanau, defnyddio’r Juzo a chodi’r aelod sy’n weddill ond yn dal yn methu â chael ffitiad da, cysylltwch â’r Ganolfan am gyngor. Efallai y bydd angen i chi drefnu apwyntiad i weld eich Prosthetydd.
Beth ddylwn ei wneud os bydd y prosthesis yn torri?
Peidiwch â gwisgo’r prosthesis a chysylltwch â’r Ganolfan i drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl. Yn aml gellir eich gweld ar yr un diwrnod, er efallai nad eich Prosthetydd arferol fydd yn eich gweld. Yn dibynnu ar y broblem, efallai y bydd hi, neu na fydd hi, yn bosibl gwneud y gwaith trwsio ar y dydd. Er mwyn helpu i leihau’r perygl o doriadau, mae’n bwysig bod y Ganolfan yn monitro eich prosthesis yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu eich apwyntiadau adolygu prosthetig.
A allaf newid fy esgidiau?
Mae eich prosthesis wedi ei osod ar gyfer yr esgidiau yr ydych yn eu gwisgo pan fyddwch yn mynychu’r sesiwn ffitio.
Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio esgidiau sydd â sodlau gydag uchder tebyg neu fe fyddwch yn newid safle’r prosthesis. Gallai hyn effeithio ar eich cerdded a pha mor gyfforddus yw eich soced.
Os ydych eisiau newid uchder sawdl eich esgid, bydd angen i chi weld eich Prosthetydd a fydd yn gwneud unrhyw addasiadau fydd eu hangen. Peidiwch â cheisio addasu eich prosthesis eich hun.Pryd gaiff y g
Pryd gaiff y gorchudd cosmetig ei roi ar y prosthesis?
Wedi cael eich rhyddhau o ofal Ffisiotherapi bydd eich Prosthetydd yn eich gweld ar ôl tua 6 wythnos. Os ydych chi a’ch Prosthetydd yn fodlon â’r prosthesis yn yr apwyntiad hwn, gellir gwneud trefniadau i’w orchuddio.
Os ydych am gael eich prosthesis wedi ei orchuddio’n gynt gallwch drafod hyn gyda’r tîm pan fyddwch yn dal i fynychu hyfforddiant cerdded.
Ni fydd pawb yn gorchuddio eu prosthesis; gallwch ddewis ei adael heb orchudd cosmetig os ydych yn dymuno hynny.
Sut ddylwn gadw’r prosthesis yn lân?
Dylid rhwbio tu fewn i’r soced gyda chlwtyn llaith glân ac yna ei sychu’n drylwyr ar ddiwedd pob dydd.
Gofalu am y leinwyr
Os ydych yn gwisgo leiniwr meddal dylid ei lanhau gyda dŵr a sebon mwyn (gwrthfacteriaidd os yn bosibl) bob dydd a’i adael i sychu dros nos. Mae hyn yn bwysig er mwyn atal problemau croen a heintiadau ar yr aelod sy’n weddill.
Gofal a defnydd o sanau
Dylech wisgo sanau glân bob dydd. Os nad oes gennych ddigon o sanau neu os ydych angen rhai newydd naill ai gofynnwch i’r Prosthetydd yn ystod eich apwyntiad nesaf neu cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn cael rhai newydd wedi eu postio i chi.
Os ydych yn gwisgo sanau cotwm gwyn gellir golchi’r rhain gyda dillad arferol. Dylid golchi sanau gwlân â llaw. Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer golchi i’w gweld ar y pecyn.
Gofalu am yr aelod sy’n weddill
Gall gwisgo aelod artiffisial wneud i’ch aelod sy’n weddill chwysu gan fod cylchrediad aer yn cael ei gyfyngu y tu fewn i’r prosthesis. Mae’n bwysig iawn i gadw eich aelod sy’n weddill yn lân. Golchwch ef bob dydd gyda dŵr cynnes a sebon mwyn. Wedi ei olchi, rhaid ei sychu’n llwyr a dylid ei wirio’n ofalus cyn rhoi’r aelod artiffisial ymlaen.
Gofynnwch am gyngor gan eich staff nyrsio ALAC os yw’r croen ar eich aelod sy’n weddill yn sych, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio hufen lleithio. Os nad yw eich croen yn sych nid oes angen i chi ddefnyddio hufen lleithio. Gall lleithio feddalu eich croen, a allai achosi eich croen i rwbio’n haws pan fyddwch yn gwisgo eich prosthesis.
Gwiriwch am arwyddion rhwbio gan yr aelod artiffisial o leiaf unwaith y dydd. Defnyddiwch ddrych ar gyfer y mannau sy’n anodd eu gweld. Bydd rhwbio yn creu ardal o groen coch a fydd, os y’i gadewir, yn troi’n bothell. Dylid trin unrhyw groen sydd wedi torri ar unwaith a rhaid i chi roi’r gorau i wisgo eich prosthesis. Cysylltwch â’r Ganolfan am gyngor pellach os bydd angen.
Gofalu am y goes arall
Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich coes arall.
- Golchwch eich troed bob dydd, gan wirio rhwng bodiau eich traed, a sychwch y droed yn drylwyr.
- Dylid torri ewinedd traed ar ôl cael bath neu pan fyddant wedi’u socian pan fydd yr ewinedd yn feddalach. Os oes gennych ddiabetes, cylchrediad y gwaed gwael, neu eich bod yn ei chael hi’n anodd cyrraedd eich troed, peidiwch â cheisio torri eich ewinedd traed eich hun. Gall Podiatregydd ddarparu gofal rheolaidd o’r traed i chi. Sgwrsiwch â staff y Ganolfan os nad ydych yn cael eich gweld gan yr adran podiatreg.
- Dylai croen caled a chyrn hefyd gael eu gadael i Bodiatregydd eu trin.
- Rhaid i’ch esgid roi cynhaliaeth dda a ffitio’n gywir heb wasgu na rhwbio.
- Gwnewch yn siŵr nad yw eich hosan yn torri i mewn i’ch croen – gall sanau gyda thopiau elastig weithiau gyfyngu ar gylchrediad y gwaed.
- Peidiwch ag eillio ein coesau, gan y gall hyn achosi ardaloedd bach o haint o amgylch y blew.
Pa mor hir fydd hi’n gymryd i ddysgu defnyddio’r prosthesis?
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar lefel eich trychiad ac ar gyfer beth y darparwyd eich prosthesis. Rhoddir prosthesis i rai pobl er mwyn cynorthwyo gyda cherdded ac i eraill er mwyn cynorthwyo gyda throsglwyddo [e.e. symud o gadair olwyn i gadair arall].
Ar ôl i’ch Prosthetydd osod eich prosthesis, fe gewch sesiynau ffisiotherapi ddwywaith yr wythnos er mwyn dysgu sut i’w ddefnyddio. Gall dysgu sut i ddefnyddio eich prosthesis yn ddiogel gymryd rhwng ychydig wythnosau ac ychydig fisoedd. Mae hyd yr amser yn amrywio gan fod rhai pobl yn gweld dysgu defnyddio prosthesis yn haws nac eraill. Bydd eich Ffisiotherapydd yn gosod nodau gyda chi ac yn eu hadolygu yn ystod eich triniaeth fel y gallwch fonitro eich cynnydd.
A oes angen i mi barhau gydag ymarferion?
Oes. Hyd nes eich bod yn gwisgo’r prosthesis drwy’r dydd bob dydd dylech barhau gyda’r ymarferion a roddwyd i chi gan eich Ffisiotherapydd. Bydd hyn yn helpu i wella cryfder a hyblygrwydd eich cyhyrau er mwyn eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau.
Pa mor hir ddylwn i barhau i ddefnyddio’r cymhorthion cerdded? [h.y. ffrâm, ffyn, baglau penelin]
Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio cymhorthion cerdded am o leiaf 8 wythnos wedi i chi ddechrau defnyddio eich prosthesis. Bydd hyn yn eich helpu i feithrin hyder a chynefino i gymryd pwysau ar yr aelod sy’n weddill heb iddo ddod yn ddolurus. Os cawsoch broblemau yn ystod yr hyfforddiant cerdded cychwynnol efallai y cawsoch eich cynghori’n wahanol a dylech ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd i chi.
Ni fydd llawer o bobl sy’n cael trychiad aelod isaf yn llwyddo i gerdded heb gymorth offer cerdded.
Peidiwch â theimlo y dylech allu cerdded heb gymhorthion, yn arbennig os yw hyn yn effeithio ar eich diogelwch.Sut wyf yn da
Sut wyf yn datblygu i hepgor y cymhorthion cerdded?
Os ydych yn dymuno symud o ffrâm neu faglau, dylech gysylltu â’r adran ffisiotherapi yn y Ganolfan i gael cyngor neu i drefnu asesiad.
Os ydych yn defnyddio ffyn ac yn teimlo’n ddiogel, yn hyderus ac nad oes gennych glwyfau ar yr aelod sy’n weddill, gallwch symud eich hun i un ffon. Cadwch y ffon yn y llaw ar yr ochr sydd gyferbyn â’ch prosthesis. Cynghorir chi i ymarfer dan do yn gyntaf cyn mynd allan.Efallai y gallwch symud i ddefnyddio dim cymhorthion cerdded o dan do ond gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo’n ddiogel.
Efallai y bydd dal angen i chi defnyddio cymorth cerdded pan fyddwch allan yn yr awyr agored.
Gall aelod o’r adran ffisiotherapi hefyd adolygu eich cymhorthion cerdded yn unrhyw rai o’ch apwyntiadau prosthetig.
Cyfarwyddiadau grisiau
Arwyddair: Da i’r nefoedd, drwg i uffern
Mae hyn yn berthnasol i lethrau, cyrbau a grisiau.
Pan fyddwch yn mynd i fyny:
- Arweiniwch gyda’ch coes gadarn.
- Dewch â’r goes brosthetig i’r un gris.
- Dewch â’r ffon(ffyn) yn olaf i’r un gris.
Pan fyddwch yn dod i lawr:
- Rhowch y ffon(ffyn) i lawr yn gyntaf.
- Camwch i lawr gyda’r goes brosthetig i’r un gris.
- Camwch i lawr gyda’ch coes gadarn i’r un gris
Ar gyfer diogelwch defnyddiwch reilen llaw os oes un.
Mae’n bosibl symud wysg eich ochr ar y grisiau gan ddal y rheilen o’ch blaen ond bydd hyn yn dibynnu ar ochr y trychiad ac ar ba ochr mae’r rheilen. Dylai’r arwyddair uchod fod yn berthnasol i’r dechneg hon hefyd.
Os oes gennych drychiad ar y ddwy goes, fe’ch cynghorir i ddefnyddio 2 reilen i ymdopi â’r grisiau. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddwyd i chi gan eich Ffisiotherapydd ynglŷn â pha goes i’w defnyddio i arwain wrth fynd i fyny ac i lawr.
A oes angen i mi barhau i weld Ffisiotherapydd ar ôl cael fy rhyddhau o ofal yr hyfforddiant cerdded?
Nac oes, oni bai bod eich Ffisiotherapydd yn teimlo y byddech yn elwa o gael hyfforddiant cerdded pellach er mwyn cyflawni eich nodau. Os felly efallai yr atgyfeirir chi at adran ffisiotherapi leol neu dîm ffisiotherapi cymunedol er mwyn parhau â’ch triniaeth.
Gall eich Prosthetydd hefyd eich atgyfeirio yn ôl ar gyfer ffisiotherapi pellach yn dilyn unrhyw rai o’ch apwyntiadau os yw’n yn teimlo bod angen i chi wella eich cerdded neu fod ganddo ef neu hi bryder ynglŷn â’ch diogelwch.
Fel arall, os ydych chi’n teimlo bod eich cerdded wedi dirywio neu fod gennych nodau eraill i’w cyflawni gallwch hefyd gysylltu â’r adran ffisiotherapi yn uniongyrchol; mae’r rhif i’w gael yng nghefn y llyfryn.
Os ydych yn dymuno gwella eich ffitrwydd cyffredinol, gall eich Ffisiotherapydd eich atgyfeirio i’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae taflenni ynglŷn â’r cynllun hwn ar gael gan y Ganolfan.
Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r Ganolfan?
Wedi i chi gael eich rhyddhau o ofal yr adran ffisiotherapi bydd eich Prosthetydd yn eich gweld ar ôl tua 6 wythnos. Yna bydd yn penderfynu pryd y bydd angen i chi gael eich gweld eto.
Os cewch broblem gyda’r prosthesis rhwng ymweliadau cysylltwch â’r Ganolfan am gyngor yn gyntaf. Efallai y bydd angen i chi wedyn drefnu apwyntiad i weld Prosthetydd.
Beth yw rhith-boen aelod?
- Disgrifir teimlad rhith-aelod fel teimlo bod yr aelod yn dal yn sownd i’r corff. Yn aml bydd yn teimlo’n fyrrach neu mewn safle gwyrgam.
- Rhith-boen aelod yw teimlo poen yn yr aelod sydd ar goll, yn aml ar ben gwaelod yr aelod yn y droed a’r bodiau. Gellir ei ddisgrifio fel llosgi, gwayw, poen yn saethu neu boen fel cyllell. Yn aml bydd poen yn dod mewn tonnau, dim ond ychydig o bobl sy’n cael poen cyson a gall gael ei waethygu gan straen neu bryder.
- Bydd y rhan fwyaf o bobl yn datblygu rhith-boen aelod yn yr ychydig ddyddiau cyntaf wedi’r trychiad ond gall rhai ddatblygu poen fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
- Efallai na fydd rhith-boen aelod yn diflannu ond gall yr hyn yr ydych yn ei deimlo newid dros amser a dod yn llai poenus.
Beth sy’n achosi rhith-boen aelod?
Bydd tua thri chwarter o’r bobl sydd wedi cael trychiad yn cael rhith-boen aelod, ond ni wyddir beth yn union sy’n ei achosi. Dros y blynyddoedd mae nifer o resymau wedi eu hawgrymu, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth derfynol. Gall hyn wneud rhith-boen aelod yn anodd iawn i’w drin yn effeithiol.
Pa driniaethau sydd ar gael ar gyfer rhith-boen aelod?
- Meddyginiaeth:
- Cyffuriau gwrthgyffylsiwn – defnyddir y rhain i drin epilepsi ond gellir hefyd eu defnyddio i liniaru poen nerfau. Mae’r rhain yn cynnwys gabapentin neu pregabalin.
- Gwrthiselyddion – yn ogystal â thrin iselder, mae’r cyffuriau hyn yn ddefnyddiol mewn lliniaru poen nerfau. Gwrthiselydd a ddefnyddir yn aml yw amitriptyline.
- Efallai y bydd rhai cleifion yn elwa o gael triniaeth gyda phoenladdwyr cryf megis tramadol a morffin
- Gallwch drafod eich meddyginiaeth ar gyfer rhith-boen aelod gyda’r Ganolfan neu gyda’ch meddyg teulu.
- Gwisgo eich prosthesis: Bydd rhai cleifion yn teimlo y gall gwisgo eu haelod artiffisial gymaint â phosibl leihau’r boen.
- Bydd rhai cleifion hefyd yn ei gweld hi’n ddefnyddiol i dylino eu haelod sy’n weddill a chadw’n brysur, a all helpu i dynnu sylw oddi wrth y boen.
Gyda phwy ddylwn gysylltu os wyf am siarad â pherson arall sydd wedi cael trychiad?
Os ydych eisiau siarad â pherson arall sydd wedi cael trychiad gofynnwch i aelod o’r tîm roi ein taflen wybodaeth i chi ynglŷn â sut y gallwch gyrchu’r gefnogaeth hon.
Gyda phwy ddylwn gysylltu os caf anawsterau yn fy nghartref?
Gallwch gysylltu â Therapi Galwedigaethol Cymunedol drwy eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol er mwyn adolygu eich sefyllfa gartref.
Gellir hefyd cysylltu â Therapi Galwedigaethol drwy’r Ganolfan. Gall ddarparu cyngor ac ymweld â chi yn eich cartref os bydd angen.
Ble allaf brynu offer i helpu gyda thasgau bob dydd?
Mae offer ar gael o siopau symudedd lleol neu drwy gatalogau archebion drwy’r post. Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â’r offer mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion cysylltwch â’r Therapydd Galwedigaethol yn ALAC.
Gall Therapydd Galwedigaethol Cymunedol hefyd asesu eich anghenion ac efallai y bydd peth offer ar gael drwy eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol.
Gyda phwy ddylwn gysylltu os oes problem gyda’r gadair olwyn?
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau o ran eich cadair olwyn cysylltwch â’r gwasanaeth cadeiriau olwyn yn y Ganolfan. Gall drefnu bod rhywun yn dod allan i asesu a gwneud yr atgyweiriadau neu drefnu asesiad pellach gan aelod o’r tîm cadeiriau olwyn os bydd angen hynny.
Y rhif cyswllt ar gyfer y gwasanaeth cadair olwyn yw 01443 661799.
Gyda phwy ddylwn gysylltu ynglŷn â dychwelyd i weithio?
Os ydych yn dychwelyd i’r un swydd, gallwch gael cefnogaeth gan y cynllun Mynediad at Waith drwy’r Ganolfan Waith. Bydd yn rhoi cyngor i chi a’ch cyflogwr a gall gynnig cefnogaeth gyda’r costau ychwanegol a allai fod eu hangen er mwyn eich galluogi i ddychwelyd i weithio. Efallai y bydd hefyd yn talu tuag at gostau cyrraedd y gwaith os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Os nad ydych yn dychwelyd i’ch swydd flaenorol, efallai na fyddwch yn siŵr pa gyfleoedd sydd ar gael i chi. Os byddwch yn cysylltu â’ch Canolfan Waith leol, gall drefnu eich bod yn gweld Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd a all gynnig asesiad cyflogaeth i chi er mwyn cynorthwyo i ganfod pa fath o waith neu hyfforddiant fydd fwyaf addas i’ch galluoedd. Cliciwch yma i ddarganfod mwy o wybodaeth gan Gov.uk
Gyda phwy ddylwn gysylltu i gael cyngor ynglŷn â gyrru?
Os ydych angen cyngor ynglŷn â gyrru, gallwch ofyn i’ch meddyg teulu neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol eich atgyfeirio i Wasanaeth Asesiad Symudedd a Gyrru Cymru sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Rookwood, neu gallwch atgyfeirio eich hun.
Cofiwch, cyn dechrau gyrru yn dilyn trychiad rhaid i chi hysbysu eich cwmni yswiriant a’r DVLA yn Abertawe.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth ysgrifenedig ynglŷn â gyrru gan y Ganolfan.
Gyda phwy ddylwn gysylltu i gael cyngor ynglŷn â budd-daliadau?
Gallwch gael gwybodaeth ynglŷn â budd-daliadau gan y Linell Gymorth Budd-daliadau Anabledd, Canolfan Cyngor ar Bopeth, Gofal a Thrwsio Cymru neu Age Cymru. Gallant roi cyngor a chynnal gwiriad budd-daliadau gyda chi er mwyn gwirio beth allwch ei hawlio. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.direct.gov.uk.
Ble gallaf gael gwybodaeth am sefydliadau chwaraeon?
Gallwch gael gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan mewn chwaraeon gan Chwaraeon Caerdydd neu Chwaraeon Anabledd Cymru yn (gweler cefn y llyfryn hwn i gael y manylion cyswllt llawn). Mae’r Cyfeirlyfr Chwaraeon Anabledd hefyd ar gael o’r Ganolfan; holwch aelod o staff os na allwch ddod i hyd iddo yn y raciau gwybodaeth.
Mae Nofio Cymru yn sefydliad sydd â’r nod o sicrhau bod gan nofwyr, yn cynnwys y rheini sydd ag anabledd, y cyfle i gystadlu yn y gamp. Mae’n darparu cefnogaeth sy’n amrywio o raglenni dysgu nofio i raglenni cystadleuol o safon byd ac mae ganddo glybiau ledled Cymru. Gweler cefn y llyfryn hwn i gael y manylion llawn. Mae taflen Nofio Cymru hefyd ar gael o’r Ganolfan; gofynnwch i aelod o staff os na allwch ddod o hyd iddi ar y raciau gwybodaeth.
Hefyd yn yr adran hon
Dolenni Defnyddiol
- Age Cymru
- Gofal a Thrwsio Cymru
- Cyngor ar Bopeth – Ffôn: 0808 278 7925
- Gyrru gyda chyflyrau meddygol
- Bathodynnau Glas a thrafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl
- Budd-daliadau a Chymorth ariannol i bobl ag anableddau
- The Limbless Association – Ffôn: 0800 6440185
- Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru
- REACH– Helping children with upper limb differences live life without limits – Ffôn: 0234780100
- Limb Power: Byw bywyd heb aelodau’r corff – Ffôn: 07502276858
- Blesma The Limbless Veterans – Ffôn: 020 8590 1124
- Diabetes UK
- Helpa Fi i Stopio: Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmgu yng Nghymru
- Ap ffitrwydd Ottobock – gellir lawrlwytho’r ap ffitrwydd am ddim o’ch App Store
- Limb Power: Byw bywyd heb aelodau’r corff – Ymholiadau: 0750 303 0702
- Dosbarthiadau ymarfer corff Daliwch Ati i Symud ar Zoom
- Chwaraeon Caerdydd
- Nofio Cymru
- Pedal Power
- Chwaraeon Anabledd Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch cynnwys y daflen hon, cysylltwch â’r tîm yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar.
Y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC)
Ysbyty Rookwood
Heol y Tyllgoed
Llandaff
Caerdydd
CF5 2YN
Derbynfa: 029 2184 8100