Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru
Nod asesu yw gwerthuso gallu corfforol a gwybyddol pobl i yrru’n ddiogel ac yn gyfforddus. Mae gan ein canolfan ystod eang o gerbydau wedi’u haddasu i gyd-fynd â gofynion penodol yr unigolyn. Mae ein tîm arbenigol yn gallu cynnig gwerthusiad o’r swyddogaeth wybyddol sydd ei hangen ar gyfer gyrru’n ddiogel.
Er mwyn cael asesiad gyrru llawn, mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar drwydded yrru gyfredol a gallu darllen plât rhif cerbyd safonol ar bellter o 20 metr. Ni ddylech fod wedi cael trawiad epileptig na lewyg o fewn y 12 mis diwethaf.
Atgyfeiriadau
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Gallwch gyfeirio eich hun drwy ffonio’r ganolfan neu gwblhau’r ffurflen gais ar ein gwefan. Mae atgyfeiriadau gan y DVLA neu Motablity yn cael eu derbyn hefyd.
Sut i Gyfeirio
Gellir lawrlwytho copi o’n ffurflen atgyfeirio o’n gwefan neu cysylltwch â’r swyddfa a bydd fersiwn argraffedig yn cael ei hanfon atoch.
Asesiad
Bydd y tîm yn gwneud asesiad cynhwysfawr ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth arbenigol. Bydd yr asesiad yn cynnwys gwerthusiad o’r galluoedd corfforol, gwybyddol a gweledol sydd eu hangen ar gyfer gyrru. Ar ddiwedd yr asesiad bydd y cynghorydd yn trafod y canlyniad. Bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch chi drwy’r post.
Mae asesiadau teithwyr a gofalwyr yn gallu cael eu gwneud hefyd ar gyfer pobl ag anawsterau mynediad. Mae’r asesiad yn archwilio trosglwyddiadau diogel ac anghenion teithio, addasrwydd cerbydau, offer a storfeydd.
Rydym yn gallu trefnu asesiad gyrru cadeiriau olwyn hefyd. Mae’n rhaid bod eich cadair olwyn fatri wedi cael prawf damwain addas.
Adolygu
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth adolygu ar gyfer pobl sydd â chyflwr dirywiol er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn ddiogel i chi yrru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ganolfan neu ewch i’r wefan.
Manylion cyswllt
Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru
Ysbyty Rookwood
Heol y Tyllgoed
Llandaf
Caerdydd
CF5 2YN
Ffôn: 029 20 555130
Edrychwch ar dudalen Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru am ragor o fanylion.