Dieteg
Mae dietegwyr yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig a rheoledig sy’n asesu, gwneud diagnosis a thrin problemau dietegol a maeth ar lefel unigol ac iechyd y cyhoedd yn ehangach.
Maen nhw’n gweithio gyda phobl iach yn ogystal â phobl sydd â phroblemau iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysbytai ac yn y gymuned.

Maen nhw’n gweithio gyda phobl ar draws yr ystod oedran cyfan o gyn-cenhedlu i oedolion hŷn. Gallan nhw hefyd weithio yn y diwydiant bwyd, y gweithle, arlwyo, addysg, chwaraeon a’r cyfryngau.
Mae’r ffilm hon yn dangos mwy i chi am yr hyn y mae dietegwyr yn ei wneud:
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn ystod eang o feysydd a phynciau o fwyta’n iach a ryseitiau i gefnogi pobl i golli pwysau, bwyta i wella o salwch gan gynnwys – COVID 19 a chanser – a helpu i lywio ac addysgu am Ddiabetes a chyflyrau hirdymor eraill.
Gweler y dudalen Cefnogi fy adsefydlu ar gyfer ystod o gyflyrau meddygol a gwmpesir. Neu, bydd y tab Gwybodaeth Gysylltiedig ar yr ochr dde yn eich cyfeirio at wybodaeth bellach.
Os hoffech gael eich cyfeirio i weld dietegydd, siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu llenwch y ffurflen hunangyfeirio hon.
Dyma ystod ehangach o adnoddau ar gyfer gwybodaeth am faeth sy’n gysylltiedig â phlant.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn ystod eang o feysydd a phynciau o fwyta’n iach a ryseitiau i gefnogi pobl i golli pwysau, bwyta i wella o salwch gan gynnwys – COVID 19 a Chanser – a helpu i lywio ac addysgu am Ddiabetes a chyflyrau hirdymor eraill.
Gweler ein tudalennau neu ewch i’r dudalen cefnogi fy adsefydlu ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau meddygol a gwmpesir.
Hefyd yn yr adran hon
Cwrs Bwyd Doeth am Oes
Rheoli eich pwysau
Dechrau Coginio
Manylion Cyswllt
Ysbyty Athrofaol Cymru
Ffôn: 029 2074 4294
E-bost: dietetic.admin.uhw@wales.nhs.uk
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Gwasanaethau Deietegol yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Rookwood
Ffôn: 029 2071 5281
E-bost: Dietetics.Llandough@wales.nhs.uk
Y Gwasanaeth Deieteg Oedolion a Phediatrig Cymunedol, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon
Ffôn: 029 2090 7681
E-bost: dietitians.cav@wales.nhs.uk