Cwrs Bwyd Doeth am Oes
Lefel 1 - 2 gredyd
Os hoffech ddysgu mwy am sut i golli pwysau mewn ffordd iach, sut i ddod yn fwy egnïol, a chael cefnogaeth a syniadau i’ch helpu i newid eich arferion bwyta, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.

Cyflwynir Bwyd Doeth am Oes gan weithwyr cymunedol hyfforddedig; mae’r sesiynau yn hwyliog, yn anffurfiol ac yn ymdrin ag ystod o bynciau i’ch annog a’ch cefnogi.
Mae wyth sesiwn ac mae pob sesiwn yn 1-1½ awr o hyd. Gellir cyflwyno sesiynau bob wythnos neu bob pythefnos, naill ai dros y we neu wyneb yn wyneb. Mae’r sesiynau’n trafod y cynnwys canlynol.
Mae’r cwrs Bwyd Doeth am Oes ar gyfer unrhyw un dros 18 oed a chyda mynegai màs y corff (BMI) o dros 25kg/m².
Os nad ydych yn siŵr beth yw eich BMI, gallwch gysylltu â thiwtor y cwrs, gofyn i’ch meddyg teulu neu nyrs practis, neu roi cynnig ar ei gyfrifo gan ddefnyddio Cyfrifiannell pwysau iach BMI y GIG. / neu drwy ddefnyddio ap cyfrifiannell BMI y GIG.