Mae bwyta deiet cytbwys yn arbennig o bwysig pan fyddwch yn feichiog er mwyn helpu i sicrhau eich iechyd chi a’ch babi. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o fideos isod sy’n rhannu camau syml i’ch helpu ar eich ffordd.
Cwrs chwe wythnos i bob menyw feichiog a’u partneriaid, teulu a ffrindiau. Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau am fwyta’n dda, gan gadw’n heini a chyflawni cynnydd pwysau iach yn ystod beichiogrwydd.
Cliciwch yma am ddyddiadau, amseroedd, lleoliadau a sut i archebu ar y ffurflen hunangyfeirio.
E-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk
Gallwch chi lawrlwytho’r ap Foodwise in Pregnancy o Google Play a siop Apple. Mae’r ap yn llawn ryseitiau, awgrymiadau siopa, cynllunydd prydau bwyd a chyngor a fideos ymarfer corff a chadw’n heini yn ystod beichiogrwydd.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.