Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Adferiad ar ôl digwyddiad cardiaidd

Gwasanaeth Adsefydlu Cardiaidd

Two ladies creating a heart symbol by joining hands together

Ein nod yw gwella iechyd a lles pobl sydd â phroblemau’r galon, drwy gynnig cyngor a chymorth i’ch helpu i ddychwelyd i fyw bywyd mor llawn â phosibl yn dilyn digwyddiad cardiaidd.

Mae anghenion pawb yn wahanol ac mae’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y dewis sydd orau gennych chi. Byddwn yn llunio rhaglen unigol o ymarfer corff, addysg a chymorth seicolegol.

Mae’r Gwasanaeth Adsefydlu Cardiaidd yn cael ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau a Chanolfan Gogledd Llandaf. Mae ein gwasanaeth yn cael ei redeg gan nyrsys a ffisiotherapyddion arbenigol Adsefydlu Cardiaidd profiadol gyda mynediad at Therapydd Galwedigaethol, Deietegydd a Fferyllydd.

Nid yw Adsefydlu Cardiaidd yn gallu newid eich gorffennol ond mae’n gallu helpu i wella’ch dyfodol.

Camau cyntaf adferiad

Yn ystod eich derbyniad i’r ysbyty, byddwn yn ymweld â chi i drafod eich diagnosis a’ch adferiad. Ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac yna’n trefnu apwyntiad gyda chi. Byddwn yn trafod cynllun adfer, rheoli ffactorau risg ac yn gosod nodau.

Bydd cleifion yn cael eu hasesu’n unigol gan Nyrs Cardiaidd a Ffisiotherapydd ac rydym yn cynnig rhaglen strwythuredig o ymarfer corff ac addysg gyda chleifion sydd wedi cael profiadau tebyg. Bydd y sgyrsiau addysg yn rhoi cyfle i chi drafod eich deiet, meddyginiaeth, pwysedd gwaed a ffactorau risg eraill a dysgu mwy am eich cyflwr.

Rhaglen Cerdded Cynnar Adsefydlu Cardiaidd

Pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau adref ar ôl digwyddiad cardiaidd, argymhellir rhaglen gerdded ysgafn, gynyddol. Bydd hyn yn cynyddu eich lefelau gweithgaredd yn raddol wrth baratoi ar gyfer rhaglen Ymarfer Corff Cam III.

Cefnogaeth gyda’ch adferiad parhaus

Dyma gyfres o chwe sgwrs sy’n cael eu cyflwyno o bell trwy Microsoft Teams y gallwch chi ddefnyddio ar y cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol.

Mae’r rhain yn cael eu cynnal ar ddydd Mercher rhwng 11am a 12.00 (canol dydd).

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Bwyta’n Iach
  • Meddyginiaeth
  • Rheoli straen
  • Gweithgarwch corfforol
  • Deall eich cyflwr
  • Ffactorau risg.

Byddwch chi’n dysgu sut i wneud sesiynau ymarfer corff yn ddiogel, gan gynnwys pwysigrwydd cynhesu, oeri a gweithio ar y dwyster cywir.

Byddwch yn cael eich gwahodd i gael asesiad gyda’r Ffisiotherapydd a fydd yn asesu eich lefel swyddogaethol, yn trafod eich nodau gweithgarwch corfforol unigol a’r opsiynau ymarfer corff sydd ar gael i’ch helpu i gyflawni’r rhain:

  • 8 dosbarth ymarfer corff grŵp dan oruchwyliaeth bob wythnos.
    Mae ymarferion yn gallu cael eu haddasu ar gyfer pob gallu.

  • 8 sesiwn ymarfer corff grŵp yn y gampfa bob wythnos.
    Ymarfer corff ‘lefel uwch’ gan ddefnyddio offer campfa.

  • Cynlluniau ymarfer corff yn y cartref Amrywiaeth o gylchedau ymarfer corff ar gael, gan gynnwys opsiynau eistedd. Mae unrhyw offer ymarfer corff yn y cartref yn gallu cael eu hymgorffori i gynllun unigol. Byddwn yn eich ffonio ddwywaith yr wythnos i gynnig cymorth.

  • Sesiynau ymarfer corff unigol
    Uchafswm o ddau sesiwn i roi arweiniad ymarferol a chyngor ar gyfer dychwelyd i chwaraeon a gweithgareddau penodol.

  • 8 sesiwn ymarfer corff rhithwir bob wythnos

Mae’r Nyrsys Arbenigol Adsefydlu Cardiaidd yn gallu cynnig cyngor a chymorth yn seiliedig ar flynyddoedd lawer o brofiad ac arbenigedd mewn cardioleg a llawdriniaeth ar y galon. Byddwn yn cefnogi eich adferiad drwy ddarparu:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth o’ch cyflwr cardiaidd
  • ateb eich cwestiynau ar gardioleg, trawiad ar y galon a llawdriniaeth ar y galon
  • cymorth a chyngor ar feddyginiaeth 
  • trafodaeth am eich cynllun adfer
  • cymorth seicolegol
  • cyngor ar eich ffordd o fyw

Rydym yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill hefyd fel, y Clinig Lipid, Rhoi’r Gorau i Ysmygu, Therapi Galwedigaethol, Deieteg, Seicoleg ac Iechyd Rhywiol.

Mae Therapydd Galwedigaethol yn gallu cefnogi eich dealltwriaeth o effaith eich digwyddiad cardiaidd. Efallai eich bod yn bryderus neu’n teimlo’n isel neu’n ddig am yr hyn sydd wedi digwydd i chi. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn gwrando ac yn eich helpu i ddeall effaith seicolegol eich digwyddiad cardiaidd ac yn eich cefnogi i ailadeiladu eich hyder wrth i chi wella.

Rydym yn gallu eich cefnogi i reoli’ch cyflwr trwy ddod o hyd i strategaethau ymdopi i helpu i sefydlu ffordd iach o fyw ac annog cydbwysedd o weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith, gorffwys a chwarae, eich helpu i ddychwelyd i weithgareddau pleserus newydd neu ddod o hyd i rai newydd. Byddwch yn dysgu mynd ar eich cyflymder eich hun a gwella’ch hyder er mwyn dychwelyd i weithgareddau dyddiol arferol, gan gynnwys dychwelyd i’r gwaith.

Rydym yn gallu helpu gyda thechnegau a strategaethau ymdopi i reoli gorbryder, straen a/neu iselder a chynghori ynghylch manteision a phwysigrwydd technegau ymlacio. Rydym yn aml yn gweithio gyda phobl ar wella cwsg neu flinder.

Nod therapyddion galwedigaethol yw eich helpu i fyw eich bywyd, yn eich ffordd eich hun. Bydd apwyntiadau’n canolbwyntio ar eich lles a’ch gallu i wneud y pethau rydych chi am eu gwneud.

Mae Deietegydd Adsefydlu Cardiaidd yn gallu eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i’ch ffordd o fyw, gan gynnwys bwyta deiet cytbwys, a fydd yn helpu i wella iechyd eich calon a lleihau’r risg o broblemau pellach.

Gallwch chi ymuno â’n sgwrs addysg bwyta’n iach neu gallwn gynnig cyngor deietegol unigol ar fwyta’n iach ar gyfer y galon, rheoli pwysau, diabetes a chyflyrau eraill a allai fod angen cymorth maeth fel rhan o’u rheolaeth i gefnogi eich adferiad.

Rydym yn eich helpu chi i ddeall agwedd iach tuag at fwyd a sut i ddatblygu arferion bwyta da. Mae’n bwysig dod o hyd i ddeiet cytbwys sy’n gweithio i chi. Mae bwyta’n iach yn gallu bod yn flasus, yn syml ac nid oes rhaid iddo gymryd amser ychwanegol.

Rydym yn annog gwneud newidiadau graddol a hirdymor a mwynhau’r bwyd rydych chi’n ei fwyta.

Cysylltu â ni

Mae swyddfa’r Adsefydlu Cardiaidd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-4pm

Ffôn: 029 21843384

E-bost: cardiac.rehabilitation@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content