Blinder
Mae blinder yn rhan arferol o wella o lawer o afiechydon.
Gall amrywio mewn difrifoldeb o’r ysgafn I’r difrifol. Blinder yw’r term meddygol a ddefnyddir i ddisgrifio teimlo’n flinedig ac yn llesg neu wrth deimlo bod diffyg egni gyda chi. Nid yw yr un peth â theimlo’n gysglyd. Os ydych chi’n dioddef o flinder, yn gyffredinol nid oes gennych unrhyw gymhelliant neu egni. Gall bod yn flinedig neu’n gysglyd fod yn un symptom o flinder, ond nid o reidrwydd yr un peth.

Mae blinder yn debygol o barhau am gyfnod ar ôl i’r haint glirio.
Gall blinder beri i chi gysgu mwy, teimlo’n simsan ar eich traed, gwneud hi’n anodd sefyll am gyfnodau hir, yn ogystal ag effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio ynghyd ag amharu ar eich cof. Efallai bydd eich symptomau blinder yn gwaethygu oherwydd Post Exertional Malaise, (anhwylder ôl-ymarfer) sydd hefyd yn cael ei alw’n Post Exertional Symptom Exacerbation (gwaethygu symptomau ar ôl ymarfer corff).
Bryd hynny mae gweithgarwch corfforol, gwybyddol, emosiynol neu gymdeithasol yn gallu gwaethygu symptomau. Mae’r symptomau yn gallu gwaethygu ar unwaith neu 24-72 awr ar ôl y gweithgarwch.
Os ydych chi’n meddwl fod blinder yn broblem I chi, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ac ymarferol ar sut i arbed egni.
Gweler yr adran cefnogi fy adsefydlu am wybodaeth fwy penodol am gyflyrau cysylltiedig ac am flinder.
Mae’r cyngor cyffredinol ynghylch rheoli blinder yn ymwneud â cheisio gwneud dewisiadau byw iach, gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol, gwella cwsg, a chydbwyso gorffwys a gweithgarwch drwy flaenoriaethu, cynllunio a gweithio wrth eich pwysau.
Mathau o Flinder
Ffisegol
Poenau yn y cyhyrau
Poen corfforol
byr o anadl
Gwendid
Cydbwysedd / pendro
Lletchwithdod
Lleferydd a golwg
Gwybyddol
Llai o allu canolbwyntio
Effeithiau ar y cof
Diffyg canolbwyntio
Anawsterau prosesu gwybodaeth gymhleth
Sgiliau meddwl
Meddwl pŵl
Emosiynol
Mwy o anniddigrwydd
Byr o amynedd
Crio
Dicter
Rhwystredigaeth
Phryder
Synhwyraidd
Goleuadau llachar
Lliwiau
Sŵn
Teithio
Archfarchnad
Ybytai
Swyddfa cynllun agored
Ysgolion
Siopau coffi