Poen dwylo neu Wendid sy’n Effeithio ar Weithgaredd Bob Dydd
Os ydych chi wedi bod yn sâl, yn enwedig os ydych chi wedi treulio cyfnod estynedig yn yr ysbyty, efallai bod eich dwylo ac arddyrnau wedi mynd yn wan, yn boenus neu’n anystwyth. Mae’r problemau hyn yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn cwblhau tasgau bob dydd fel gwisgo, ymolchi a choginio.
Gall yr wybodaeth a’r fideos canlynol helpu gyda’r dwylo a’r arddyrnau a’i gwneud yn haws i chi gwblhau tasgau bob dydd. Gallwch wneud yr ymarferion corff hyn sawl gwaith y dydd neu fel y mae eich poen neu’ch blinder yn caniatáu.
Mae’r cyngor hwn wedi’i gynllunio i roi strategaethau hunanreoli i chi. Os hoffech chi gael rhagor o fewnbwn therapi dwylo Therapi Galwedigaethol, cysylltwch â’ch meddyg teulu a gallan nhw eich cyfeirio chi at ein tîm.