Gwasanaeth Therapi Ffisiotherapi Plant
Rydym yn gweld plant o ganlyniad i:
- anafiadau
- llawdriniaeth
- amrywiadau arferol mewn datblygiad
- anabledd plentyndod

Yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn gweithio gyda phlant y mae eu datblygiad sgiliau echddygol corfforol a gros yn effeithio ar eu bywydau o’u genedigaeth hyd at ddiwedd eu haddysg amser llawn.
Rydym yn gweld plant mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys:
- Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru,
- Canolfannau Plant,
- Ysgolion Arbennig,
- meithrinfeydd
- ysgolion
- yn y cartref
Asesiad cychwynnol
Yn y lle cyntaf, byddwn yn cynnal arsylwad ac archwiliad corfforol. Gall hyn gynnwys edrych ar gryfder a chydsymudiad y plentyn, datblygiad echddygol, ystum, cydbwysedd, anghenion anadlol, gweithgarwch a medrau.
Yna bydd cyngor unigol yn cael ei deilwra i chi a’ch plentyn ei ddilyn.
Gwasanaethau ffisiotherapi cleifion mewnol
Gwasanaethau newydd-anedig
Acute respiratory/ PCCU
Gwasanaethau ffisiotherapi cleifion allanol
Dyma rai o’r cyflyrau rydym yn ymdrin â nhw:
Anaf neu boen i’r cymalau a’r cyhyrau
Gan gynnwys Osgood Schlatters, Sinding Larsen Johannsen
Anhwylderau anadlol
gan gynnwys Ffibrosis Systig
Anhwylderau niwrogyhyrol
Dystroffi’r Cyhyrau, Astroffi’r Cyhyrau Asgwrn Cefn
Anhwylderau niwrolegol
Anaf i’r ymennydd, anaf i fadruddyn y cefn, strôc, llid yr ymennydd ac epilepsi
Cerdded ar Flaenau’r Traed
Cerdded ar Flaenau’r Traed Idiopathig