Ffisiotherapi Plant –
Triniaeth Troed Glwb a Phonseti
Mae gwasanaeth Ponseti yn cynnig asesiad llawn a thriniaeth i blant sydd ag anffurfiadau traed strwythurol. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau fel Troed Glwb (Talipes Equinovarus Cynhenid), Vertical Talus a Metatarsus Adductus Cynhenid yn ogystal ag anffurfiadau traed eraill.

Cafodd ein clinig ei sefydlu yn 2005 ac mae’n cynnwys tîm o Lawfeddygon Orthopaedig Pediatrig Ymgynghorol a Ffisiotherapyddion Arbenigol.
Dull Pontseti
Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn dull Ponseti fel y brif driniaeth ar gyfer Troed Glwb. Mae cwnsela cyn-geni yn cael ei gynnig yn dilyn diagnosis yn y sgan 20 wythnos. Mae’r clinig yn digwydd yn wythnosol, gyda thriniaeth fel arfer yn dechrau ddwy neu dair wythnos ar ôl genedigaeth y plentyn. Mae’r cyfnod castio yn gyfres o gastiau wythnosol uwchben y pen-glin i drin a chywiro safle’r droed yn ysgafn.
Efallai y bydd angen tenotomi Achilles ar y plentyn sy’n aml yn cael ei berfformio o dan anesthetig lleol mewn clinig. Yn dilyn hyn, mae angen tair wythnos arall o gastio, yna trosglwyddo i Ffrâm Cipio Traed. Mae’r ffrâm yn cael ei gwisgo am 23 awr y dydd am 12 wythnos, yna yn y nos ac ar adegau o’r dydd pan fydd eich plentyn yn cysgu nes ei fod yn 5 oed.
Tîm Pontseti
- Olga Bizby, Ffisiotherapydd Pediatrig Arbenigol
- Natalie Morgan, Ffisiotherapydd Pediatrig Arbenigol
- Amelia Stubbs, Ffisiotherapydd Pediatrig
- Clare Carpenter, Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol
Gwefannau defnyddiol
Hefyd yn yr adran hon
Prif gysylltiadau
Atgyfeiriadau ac apwyntiadau: Ysgrifenyddion Orthopaedig Pediatrig
Ffoniwch: 02920 748034
E-bost: ponseti.cav@wales.nhs.uk