Ffisiotherapi Plant -
mewn Rhiwmatoleg
Mae’r gwasanaeth Rhiwmatoleg Pediatrig, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn gofalu am blant ag amrywiaeth eang o gyflyrau llidiol ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru.

Mae gan y plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw gyflyrau fel:
- Arthritis idiopathig ieuenctid
- Arthritis systemig ieuenctid
- Lupus erythematosus systemig dechreuad cynnar
- Dermatomyositis ieuenctid
- Osteomyelitis amlffocal cylchol cronig
- Anhwylderau meinwe cysylltiol ieuenctid
- Scleroderma plentyndod
Beth mae Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig?
Bydd y gwasanaeth Ffisiotherapi Pediatrig yn ymwneud â phlant yn bennaf mewn lleoliad cymunedol neu gleifion allanol, ond weithiau yn yr ysbyty os oes angen. Bydd gofal ysbeidiol yn cael ei gynnig i gefnogi plant i adennill lefelau gweithrediad a gweithgarwch llawn. Bydd y gwasanaeth ffisiotherapi yn cynnig cyngor ac addysg ar weithio wrth eich pwysau er mwyn rheoli’r cyflyrau hyn.
Mae cymorth agos yn cael ei roi gan y Ffisiotherapydd Rhiwmatoleg Pediatrig arbenigol sydd wedi’i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Sut i gael defnyddio’r gwasanaeth
Oherwydd yr amrywiaeth eang o gyflyrau sy’n cael gofal dan y gwasanaeth Rhiwmatoleg Pediatrig, yn gyntaf dylai eich plentyn weld ei feddyg teulu a’r pediatrydd lleol. Yna, yn ôl yr angen, bydd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn yn atgyfeirio’r claf i’r gwasanaeth.
Os oes gennych bryderon am eich plentyn, ewch at eich meddyg teulu, Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu drafod gyda’i bediatrydd er mwyn cael cyngor ac arweiniad pellach.