Nod tîm Ffisiotherapi Ffibrosis Systig, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yw asesu a thrin plant o bob oed sydd â Ffibrosis Systig (CF). Rydym yn gweithio i gefnogi a galluogi teuluoedd i ddilyn trefn ffisiotherapi gartref hefyd.
Mae ein tîm Ffisiotherapi Ffibrosis Systig yn cynnwys ffisiotherapyddion pediatrig arbenigol sy’n ymdrin â chleifion mewnol, clinigau cleifion allanol ac ymweliadau ffisiotherapi allgymorth.
Mae ganddyn nhw wybodaeth, profiad a dealltwriaeth fanwl o blant gyda Ffibrosis Systig ac maen nhw wedi bod yn gyfrifol am roi gofal Ffibrosis Systig ers blynyddoedd. Mae cynorthwy-ydd ffisiotherapi yn gweithio yn y tîm hefyd, yn rhoi darpariaeth ymarfer corff i gleifion mewnol a chynorthwyo gyda darpariaeth offer.
Mae’r ffisiotherapyddion Ffibrosis Systig yn rhan o’r adran ffisiotherapi ehangach o fewn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru hefyd, yn ogystal ag aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol Ffibrosis Systig.
Mae ffisiotherapydd arbenigol Ffibrosis Systig yn gweithio gyda ffisiotherapyddion mewn clinigau allgymorth ar draws de a chanolbarth Cymru hefyd, yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol.
Gall ffisiotherapi helpu i gadw’r ysgyfaint yn glir ac mae’n rhan annatod o ofal Ffibrosis Systig. Bydd ffisiotherapyddion arbenigol yn gwneud asesiad parhaus, rhoi cyngor ar driniaeth a chymorth wrth ddatblygu rhaglenni diagnosis unigol drwy gydol blynyddoedd plentyndod a glasoed.
Mae ffisiotherapi ar gyfer Ffibrosis Systig yn cynnwys nifer o wahanol agweddau ar driniaeth, a bydd pob un ohonyn nhw’n cael eu cyflwyno ar yr adegau priodol ac yn cael eu hadolygu’n barhaus.
Prif elfennau’r driniaeth hon yw:
Mae’n gallu bod yn anodd cael eich plentyn i gytuno i ffisiotherapi, yn enwedig plant bach ac ym mlynyddoedd glasoed – bydd eich ffisiotherapydd yn cynnig dewisiadau a chefnogaeth o amgylch hyn.
Bydd aelod o’r tîm ffisiotherapi yn bresennol yn y clinigau Ffibrosis Systig ac yn ystod y broses o dderbyn cleifion mewnol. Os oes angen i chi gysylltu â’r tîm ffisiotherapi y tu allan i’r amseroedd hyn, defnyddiwch y manylion isod.
Mae ymarfer corff yn arbennig o bwysig i bobl sydd â CF oherwydd gall helpu i glirio mwcws o’r ysgyfaint, gwella cryfder corfforol a helpu i wella iechyd cyffredinol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.