Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ar gyfer plant sydd â chlefydau esgyrn metabolig fel:
Mae’r tîm amlddisgyblaethol hwn dan arweiniad Endocrinolegydd Pediatrig yn cynnwys Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Seicolegydd Clinigol, Fferyllydd a Deietegydd.
Mae’r ffisiotherapydd yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm i asesu, cynghori ac addysgu cleifion a theuluoedd, a chyfeirio at gydweithwyr ffisiotherapi sy’n gweithio mewn lleoliadau nes at y cartref yn ôl yr angen.
Ein nod yw cydweithio ac rydym yn awyddus i gefnogi therapyddion lleol, yn ogystal â phlant a’u teuluoedd i rymuso rheolaeth y cyflyrau hyn.
Bydd atgyfeiriadau at y gwasanaeth hwn yn cael eu gwneud drwy atgyfeiriadau gan Feddyg Teulu neu Feddyg Ymgynghorol at y gwasanaeth Endocrinoleg Bediatrig.
Mae adnoddau defnyddiol a thaflenni gwybodaeth i deuluoedd a phlant gydag osteogenesis imperfecta ar wefan Cymdeithas Esgyrn Brau, sy’n cael eu creu gan grŵp cenedlaethol o’r enw POINT sy’n cydweithio gyda ni.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.