Fy Adferiad Corfforol o COVID-19
Mae bod yn egnïol yn ogystal a bwyta diet iachus yn hanfodol i’ch helpu chi i wella ar ôl COVID-19.
Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn argymell cymryd camau gofalus tuag at reoli eich dychweliad i actifedd.
Mae canolbwyntio ar gymryd camau bach tuag at eich nod actifedd yn ffordd dda o ddechrau, gan ddechrau gyda gweithgareddau syml dros gyfnodau byr ac yn raddol gynyddu’r anhawster.
Os ydych wedi cael diagnosis o COVID hir (syndrom ôl-COVID-19) neu’n meddwl bod gyda’ch chi covid hir, mae’n bwysig gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw therapi ymarfer corff wedi’i raddio oherwydd efallai y bydd angen therapi dan oruchwyliaeth neu dan arweiniad arnoch i helpu gyda’ch adsefydlu.
I’r rhan fwyaf o bobl mae hyn yn golygu dod o hyd i’ch lefel actifedd bresenol, ymarfer nes eich bod chi’n teimlo’n gyffyrddus, ac yna gwneud newidiadau bach. Bydd maint y newid yn unigol i chi, mae rhai pobl yn gallu cymryd camau mwy nag eraill am resymau gwahanol, fel lefel actifedd neu afiechyd blaenorol.
Mae’n bwysig cwblhau gweithgareddau ar y lefel gywir i chi. Os ydych chi’n gor-wneud mae perygl o ddioddef rhwystrau fel anaf neu flinder. Os oes unrhyw amheuaeth, dechreuwch yn isel ac adeiladwch yn araf.