Nid yw’n anarferol pan fyddwch chi’n sâl neu’n gwella o salwch i gael problemau gyda’ch chwant bwyd, neu bod angen maetholion ychwanegol ar eich corff. Efallai y gwelwch eich bod wedi colli pwysau neu teimlo’n wannach neu’n llai abl i wneud y gweithgareddau mewn bywyd sy’n bwysig i chi. Weithiau gall symptomau fel hyn fod yn arwydd o ddiffyg maeth, Mae diffyg maeth yn golygu bod storfeydd eich corff o faetholion fel protein a fitaminau yn isel. Mae maethiad da yn ogystal â bod yn weithgar yn rhan hanfodol i’ch helpu chi i wella ar ôl COVID-19.
Os ydych chi’n poeni am eich chwant bwyd neu unrhyw golled pwysau yn anfwriadol, gallwch ddefnyddio’r adnodd maethol BAPEN i assessu eich risg. Bydd yr holiadur diffyg maeth yn cynghori chi os os ydych chi mewn risg isel, canolig neu uchel. Mi fydd y adnodd yma ac (not needed) yn rhoi cyngor i chi i’ch helpu i ymddopi a rhai o’r problemau sy’n gysylltiedig a maeth. Os yw’ch canlyniad yn risg uchel, mae’n bwysig cysylltu â’ch darparwr gofal iechyd a gofyn am atgyfeiriad i gael cyngor ddietegydd a chefnogaeth unigol.
Darganfyddwch fwy am bwyta ar gyfer gwella. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch gallwch ofyn â’ch darparwr gofal iechyd a gofyn am atgyfeiriad i gael cyngor ddietegydd a chefnogaeth unigol.
Efallai y bydd rhai pobl yn cael broblemau llyncu (Dysphagia) yn dilyn COVID-19. Os na allwch chi lyncu’n ddiogel mae bwyta a yfed digon yn gallu bod yn broblem i gadw’n iach neu gynnal pwysau delfrydol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am broblemau llyncu yma (dysphagia).
Os ydych chi o dan bwysau, yn colli pwysau’n anfwriadol neu os oes gennych chwant bwyd isel, bydd yr awgrymiadau canlynol yn ddefnyddiol ich helpu chi i gael fwy o maeth yn eich diet:
Fe ddylech chi geisio bwyta tri phryd y dydd, gyda byrbrydau a diodydd maethlon rhyngddynt. Rhowch gynnig ar gynnwys cnau cymysg, iogwrt, caws a chraceri, tost, laeth braster llawn, siocled poeth, ysgytlaeth neu smwddis.
Os ydych yn bwyta bwydydd braster isel neu bwydydd ‘diet’, newidiwch i’r fersiwn â braster llawn neu galorïau llawn oherwydd gall yr egni ychwanegol ynddynt atal neu arafu unrhyw golli pwysau heb ei gynllunio.
Ceisiwch gynnwys rhai bwydydd protein ym mhob pryd neu fyrbryd, fel cig, pysgod, llaeth, caws, wyau, ffa a chnau.
Ceisiwch gyfoethogi’ch bwydydd trwy ychwanegu calorïau ychwanegol atynt, er enghraifft:
– Ychwanegwch gaws at cawl, pasta, tatws stwnsh neu lysiau
– Ychwanegwch fenyn, margarîn ychwanegol at lysiau, bara neu wy wedi’i sgramblo.
Cymerwch ddiodydd ar ôl i chi fwyta yn hytrach na gyda phrydau bwyd fel nad ydyn nhw’n eich llenwi chi cyn bwyta.
Mae atchwanegiadau maethol weithiau’n cael eu cyflwywyd pan na allwch chi gael popeth sydd ei angen arnoch chi o’ch diet bresennol. Os ydych chi wedi cael eich argymell gan ddietegydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall i gymryd ychwanegiad maethol powdr, mae’r fideos canlynol yn rhoi arweiniad ar gyfer greu’r cynhyrchion.
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.