I’r rhan fwyaf o blant, mae sgiliau cyfathrebu yn datblygu’n gyflym dros bum mlynedd gyntaf eu bywyd a gall yr oedolion sydd o’u cwmpas wneud llawer i helpu i gefnogi eu datblygiad. I rai plant, nid yw’r sgiliau hyn bob amser yn datblygu yn ôl y disgwyl ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i gyfathrebu.
Er bod y rhan fwyaf o blant yn defnyddio siarad fel ffordd o gyfathrebu, mae rhai plant yn cyfathrebu trwy arwyddo, ystumiau/gweithredu, symbolau neu lyfrau/apiau.
Mae’r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant wedi llunio llawer o gynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ar sut y gallwch chi gefnogi sgiliau cyfathrebu eich plentyn gartref. Ewch i’r dudalen Therapi Iaith a Lleferydd Plant i gael cyngor sy’n berthnasol i chi a’ch plentyn.
Syniadau a strategaethau defnyddiol i helpu eich plentyn
Os yw eich plentyn yn derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant, dilynwch y cyngor a argymhellir i chi a’ch plentyn. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod hyn eto.
Fel gyda phob un ohonom, mae pa mor effeithiol y mae plant yn cyfathrebu yn gallu dibynnu ar sut maen nhw’n teimlo. Mae defnyddio strategaethau i gefnogi lles emosiynol eich plentyn yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ei sgiliau cyfathrebu hefyd.
Dyma ddolenni i gyngor defnyddiol gan dimau Gwasanaethau Plant a allai helpu gyda siarad a chyfathrebu eich plentyn.
Therapi Iaith a Lleferydd i Blant
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Dysgwch sut i droi amser sgrin yn amser ‘ti a fi’ gyda chyngor gan y gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant.
Mae awgrymiadau ar sut i reoli amser sgrin eich plentyn ar gael gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc.
Taflen Therapi Iaith a Lleferydd Plant ar gamau talu sylw a gwrando.
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Therapi Iaith a Lleferydd i Blant
Mae gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc wybodaeth ar sut i gefnogi eich plentyn i fwynhau manteision chwarae synhwyraidd.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.