Paratoi ar gyfer Llawdriniaeth
Mae’r wybodaeth hon wedi’i chasglu ynghyd er mwyn eich helpu chi i baratoi ar gyfer llawdriniaeth. Gallwch ei defnyddio ochr yn ochr â gwybodaeth arall a gewch chi gan y timau sy’n ymwneud â’ch gofal.
Efallai eich bod yn y cyfnod cynnar o feddwl am gael llawdriniaeth, neu efallai eich bod wedi aros yn hir i gael llawdriniaeth. Waeth beth yw eich sefyllfa, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn paratoi, bod yn barod, a chael canlyniad mwy llwyddiannus a gwell adferiad.
Os ydych chi’n aros am ben-glin neu glun newydd, neu lawdriniaeth yn ymwneud â thriniaeth canser, cliciwch ar y dolenni isod am wybodaeth arbenigol, fel arall darllenwch ymlaen.
Dyma rai o’r manteision sy’n deillio o baratoi’n dda ar gyfer llawdriniaeth:
- llai o gymhlethdodau a sgileffeithiau ar ôl y llawdriniaeth
- llai o amser yn yr ysbyty a dychwelyd adref yn gynt
- dychwelyd yn gynt i’ch lefel iechyd a ffordd o fyw blaenorol
- mwy o egni, llai o flinder, a gwell iechyd meddwl
- mwy o reolaeth dros benderfyniadau ynghylch gofal.
Prif agweddau paratoi’n dda ar gyfer llawdriniaeth yw:
Yn gynnar yn eich taith tuag at lawdriniaeth, byddwch yn cael apwyntiad gyda’r Clinig asesu Cyn Llawdriniaeth a fydd yn asesu eich ffitrwydd ar gyfer llawdriniaeth neu anesthetig. Bydd hwn yn gyfle i drafod sut i baratoi’n dda ar gyfer llawdriniaeth
Mae cleifion heini yn gwella’n gynt ar ôl llawdriniaeth ac yn cael llai o gymhlethdodau. Gall yr hyn rydych chi’n ei wneud yn y cyfnod sy’n arwain at lawdriniaeth gael effaith fawr ar eich adferiad a’ch iechyd hirdymor.
- Cliciwch yma am syniadau ymarfer corff a fideos ymarfer corff rhagarweiniol i wella’ch cryfder a’ch stamina.
- Cliciwch yma ac yna dewiswch ‘PERIOPERATIVE CARE’ ar gyfer rhaglen ymarfer corff awgrymedig yn seiliedig ar lefel eich gallu a’ch ffitrwydd
Mae llawer o ymchwil yn dangos bod defnyddio eich amser cyn llawdriniaeth i ddod yn fwy heini yn gorfforol yn fuddiol iawn i chi. Gallwch ddarllen mwy yma:
Deiet a maeth
Mae cael deiet iach a maethlon yn bwysig bob amser ond hyd yn oed yn fwy felly wrth baratoi am lawdriniaeth. Mae cael llawdriniaeth ac adfer yn defnyddio llawer o egni dros gyfnod hir a bydd cael cronfeydd egni da yn eich helpu i wella.
Pa gyngor deietegol ddylwn i ei ddilyn?
Mae gen i archwaeth da ac nid wyf wedi colli pwysau yn annisgwyl.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Rwy’n cael trafferth colli pwysau ac yn ei chael hi’n anodd cadw at ddeiet iachus.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Does gen i fawr o archwaeth, rwyf o dan bwysau neu’n colli pwysau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Mae’n beth digon cyffredig teimlo dan straen ac yn bryderus wrth baratoi ar gyfer llawdriniaeth. Efallai bydd darllen ychydig o wybodaeth yn gymorth i chi.
Mae gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion wybodaeth am reoli pryder cyn llawdriniaeth yma.
Os ydych chi’n gwybod eich bod yn yfed mwy o alcohol nag sy’n iach i chi, neu os ydych chi’n ysmygwr, gall paratoi ar gyfer llawdriniaeth fod yn amser da i weithio tuag at leihau hyn a rhoi’r gorau iddi. Bydd yn gwella eich siawns o osgoi cymhlethdodau a gorfod aros yn yr ysbyty yn hirach, a dychwelyd i iechyd llawn ar ôl y llawdriniaeth.
Bydd y timau sy’n gofalu amdanoch yn trafod hyn gyda chi ac mae mwy o wybodaeth ar gael yma: