Anaf i’r Ymennydd
Mae rhestr o fideos a dolenni isod gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n gwella o anaf i’r ymennydd, cyflyrau niwrolegol neu niwrolawdriniaeth neu sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhain.
Mae llawer o’r fideos wedi cael eu creu gan glinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro neu’r Tîm Anafiadau Ymennydd Cymunedol Arbenigol Rhanbarthol, sy’n cynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg.

Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi cynhyrchu cyfres o fideos gydag awgrymiadau ar sut i reoli tasgau bob dydd fel torri llysiau ac agor potiau gan helpu i warchod eich cymalau. Cliciwch yma i weld y fideos hyn.
Mae fideo isod a gafodd ei gynhyrchu gan Ysbyty Preswyl Preifat Mt Wilga ar sut i wisgo eich hun gydag un fraich.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar fod yn offeryn defnyddiol iawn er mwyn rheoli amrywiaeth o faterion lles gan gynnwys blinder, problemau cwsg, diffyg anadl a phoen. Cliciwch yma am syniadau defnyddiol ar sut i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae fideo isod gan Adele Shelton, Hyfforddwr Adsefydlu yn Nhîm Anafiadau Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n dangos ‘Pum Cam at Lesiant’.
Mae fideo isod gan Dr Jess Quirke, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ‘Prosesu gwybodaeth ar ôl anaf i’r ymennydd’.
Mae fideo isod gan Helen Prangley, Hyfforddwr Adsefydlu yn Nhîm Anafiadau Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ‘Blinder ar ôl anaf i’r ymennydd.’
Mae fideo isod gan Dr Jess Quirke, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ‘Newidiadau Emosiynol ar ôl anaf i’r ymennydd’.
Mae fideo isod gan Dr Siobhan Moore, Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ‘Ymdopi ag Anawsterau Cofio ar ôl Anaf i’r Ymennydd’.
Mae fideo isod gan Jude Howlett, Uwch Therapydd Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ‘Canolbwyntio ar ôl Anaf i’r Ymennydd’.
Am wybodaeth am yrru ar ôl anaf i’r ymennydd, cliciwch ar y dolenni isod:
Am wybodaeth am eich golwg ar ôl anaf i’r ymennydd, cliciwch y dolenni isod:
Cliciwch y dolenni isod i weld ymarferion adsefydlu’r llaw a’r arddwrn:
Am wybodaeth ar sut i gael cadair olwyn, cliciwch isod:
I gael gwybodaeth am sut i gefnogi rhywun sydd ag anaf i’r ymennydd, cliciwch isod: