Therapi Galwedigaethol mewn Niwroleg a Niwrolawdriniaeth

Gwasanaethau Niwroleg a Niwrolawdriniaeth Acíwt i Gleifion Mewnol

Mae ein gwasanaeth yn trin pobl â chyflyrau, clefydau ac anafiadau i’r ymennydd, madruddyn y cefn, nerfau ymylol a’r cyhyrau. Mae’n wasanaeth rhanbarthol arbenigol sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ar gyfer pobl ar draws de Cymru.  

Mae cyflyrau niwrolegol yn cynnwys:

  • Epilepsi
  • Sglerosis Ymledol
  • GBS (syndrom Guillain-Barré)
  • Anafiadau hypocsig i’r ymennydd
  • Clefyd Niwron Echddygol
  • Enseffalitis a strôc asgwrn cefn.

Mae cleifion yn gallu cael eu derbyn i’r ward hon ar gyfer ymchwiliadau niwrolegol pan nad yw diagnosis yn hysbys.

Mae ymyriadau niwrolawfeddygol yn cael eu gwneud ar gyfer

  • Anaf trawmatig i’r ymennydd (TBI)
  • Haematoma Isdwrol (Acíwt a Chronig)
  • Llawfeddygaeth asgwrn cefn
  • Anafiadau i’r Pen
  • Tiwmorau’r Ymennydd

Mae’r Therapyddion Galwedigaethol yn y gwasanaeth yn cydweithio gyda thîm arbenigol. Mae aelodau’r tîm yn cynnwys Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapyddion, Niwro Seicolegwyr, arbenigwyr nyrsys clinigol ac ymarferwyr Anafiadau Trawmatig Arbenigol i’r Ymennydd.

Ein rôl, fel Therapyddion Galwedigaethol o fewn Niwroleg Acíwt a Niwrolawdriniaeth, yw:

  • Darparu asesiad niwrolegol arbenigol ac adsefydlu cynnar.
  • Helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth wrth wneud gweithgareddau dyddiol sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Asesu a darparu strategaethau i gefnogi namau gwybyddol.
  • Addysgu a rhoi cefnogaeth i gleifion a’u hanwyliaid.
  • Asesu pa gymhorthion, addasiadau neu sgiliau cartref sydd eu hangen i ryddhau claf yn ddiogel i’w gartref ei hun neu i wasanaeth adsefydlu arbenigol.
  • Cyfeirio cleifion at wasanaethau cymunedol defnyddiol ar ôl cael eu rhyddhau.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Adsefydlu Niwrolegol a Madruddyn y Cefn, y tîm Gofal Critigol, y Rhwydwaith Trawma Mawr a gwasanaethau cymunedol arbenigol hefyd.

Fideos ac adnoddau

Atgyfeiriad

Bydd staff yn gwneud atgyfeiriadau ar gyfer cleifion ar y wardiau os oes angen.

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content