Atal Cwympiadau
Bydd traean o’r holl bobl hŷn dros 65 oed yn cwympo bob blwyddyn, a gall hyn cael effaith fawr ar eu llesiant corfforol ac emosiynol. Fodd bynnag, nid yw cwympiadau’n rhan anochel o heneiddio ac mae sawl ffordd o leihau risgiau. Gellir gweld ein Fframwaith Cwympiadau: Lleihau Risg a Niwed sy’n nodi ein dull o atal cwympiadau yma.
Clinigau Rhithwir Sadiwch i Gadw’n Saff
Mae’r dystiolaeth sy’n bodoli ynghylch ymarfer corff sy’n helpu i atal cwympiadau wedi cael ei defnyddio i ddatblygu dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd yn y gymuned yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Caiff y sesiynau hyn eu datblygu a’u cyflwyno gan hyfforddwyr ymarfer corff cymwys.
Gan fod y pandemig COVID-19 parhaus yn atal darparu llawer o wasanaethau wyneb yn wyneb, mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn cynnig ymgynghoriadau a sesiynau cynghori rhithwir Sadiwch i Gadw’n Saff dros y ffôn a thrwy blatfformau fideogynadledda.
Cynigiwyd clinigau Sadiwch i Gadw’n Saff mewn lleoliadau cymunedol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac maent wedi’u hanelu at unigolion a allai fod mewn perygl o gwympo. Gall unigolion sy’n mynychu clinig gael ‘MOT ffitrwydd’, asesiad manwl o risgiau posibl o gwympo a chyngor ar sut i gynnal cryfder, cydbwysedd ac iechyd cyffredinol wrth iddynt fynd yn hŷn.
Gellir cynnig yr holl gyngor hwn a’r asesiad yn awr drwy ein rhith-glinigau, sydd ar gael i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg.
E-bostiwch eich manylion cyswllt i’r tîm gan ddefnyddio staysteady.cardiff@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02921 832552, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi o fewn ychydig ddyddiau.
Adnoddau Fideo Clinigau Sadiwch i Gadw’n Saff
Tanc Tanwydd Atal Cwympiadau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi cynhyrchu’r fideo ‘Falls prevention fuel tank: when did you last check yours?’, sy’n defnyddio cyfatebiaeth y tanc tanwydd mewn car, a’r syniad o ‘wirio a thopio eich tanc i fyny’n rheolaidd’ er mwyn helpu i atal cwympiadau. Pan fydd yw eich tanc tanwydd yn llawn, byddwch yn llai tebygol o gwympo.
Gall pethau syml ychwanegu at eich tanc tanwydd er mwyn helpu i leihau eich risg o gwympo, fel cadw eich hun wedi’i hydradu, adolygu eich meddyginiaeth, gwirio’ch pwysedd gwaed, profion llygaid a chadw eich hun yn egnïol.
Cynhyrchwyd y fideo gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chaerdydd ac Elusen Iechyd y Fro.
Ymarferion Cryfder a Chydbwysedd
Mae amrywiaeth o ymarferion a all gael effaith fawr ar gryfder a chydbwysedd a all leihau’r risg o gwympo. Hefyd, os ydych chi’n cwympo, gall gwella eich cryfder a’ch cydbwysedd wneud gwahaniaeth i’ch gwydnwch a’ch adferiad.
Cliciwch yma am raglen ymarfer corff cryfder a chydbwysedd
Mae Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion wedi llunio’r animeiddiad byr hwn isod gan dynnu sylw at 6 ymarfer cryfder a chydbwysedd a all, os cânt eu gwneud yn rheolaidd, helpu i leihau’r risg o gwympo.
Adnoddau Defnyddiol Eraill
- Mae’r wefan Heneiddio’n dda yng Nghymru yn cynnwys adnoddau defnyddiol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o gwympo neu sydd wedi cwympo.
- Mae gan wefan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ragor o wybodaeth am sut y gellir atal cwympiadau.