Imiwneiddio
Imiwneiddio: Salwch a chlefydau y gellir eu hatal
Mae atal salwch drwy imiwneiddio â brechlyn yn hanfodol bwysig i bawb. Mae nid yn unig yn helpu i gynnal eich iechyd, ond mae hefyd yn cynnal iechyd pawb o’ch cwmpas. Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael brechiadau.
Mae angen imiwneiddio ychwanegol ar bob unigolyn sydd â’r cyflyrau iechyd hirdymor canlynol er mwyn helpu i sicrhau nad yw salwch y gellir ei atal yn gwneud eu cyflwr yn waeth, neu’n ychwanegu cymhlethdodau:
- Cyflyrau cardiofasgwlaidd
- Cyflyrau anadlol
- Clefyd yr arennau neu’r afu/iau
- Diabetes
- Y rhai sydd â BMI dros 40
Dylai pobl sydd â system imiwnedd gwan oherwydd cyflyrau neu driniaeth hirdymor, gan gynnwys cleifion sy’n cael cemotherapi, y rhai sydd ag asplenia neu gamweithrediad duegol, a’r rhai yn y grwpiau a amlygwyd uchod, hefyd sicrhau eu bod wedi’u diogelu rhag Niwmonia ac wedi cael y brechiad priodol.
Dylai pobl rhwng 70 ac 80 oed hefyd gael Brechlyn Yr Eryr.
Brechlyn Ffliw
Mae cael y brechlyn ffliw tymhorol yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod y mae’r ffliw yn cylchredeg mewn cymunedau, mae hyn fel arfer o fewn misoedd y gaeaf. Y brechlyn ffliw yw un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu rhag y ffliw, a bydd yn helpu i amddiffyn aelodau bregus o’ch cymuned, eich teulu a’ch cydweithwyr.
Dysgwch fwy am y brechlyn ffliw a sut i’w gael ar draws ardal Caerdydd a’r Fro drwy ymweld â’r dudalen we hon ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Brechlynnau COVID-19
Cael y brechlyn yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag COVID-19 I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19, ewch i dudalen we Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I gael gwybodaeth leol am ein Rhaglen Frechu Dorfol ar draws ardal Caerdydd a’r Fro, ewch i’n tudalen we drwy ddilyn y ddolen hon.
Hefyd yn yr adran hon
Gofalwyr ifanc ac oedolion
Mae’n bwysig i ofalwyr ifanc ac oedolion sicrhau eu bod yn cael eu himiwneiddio’n briodol er mwyn amddiffyn eu hunain a’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae’r brechlyn ffliw tymhorol ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sy’n ymgymryd â rôl ofalu. Gellir cael brechlyn gan eich meddyg teulu neu fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yng nghynllun y GIG.
Dylai gofalwyr ifanc holi eu meddyg teulu i sicrhau bod eu brechiadau, yn enwedig MMR a MenACWY, yn gyfredol.
Os ydych yn ansicr, neu os oes gennych gwestiynau am imiwneiddio a brechu, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol sef eich Nyrs Ardal, eich Nyrs Practis neu’ch Ymwelydd Iechyd.