Gall yfed alcohol yn gymedrol fod yn bleserus, ond gall yfed gormod neu ‘oryfed mewn pyliau’ gael effaith niweidiol ar ein hiechyd a’n llesiant ac ar eraill o’n cwmpas.
Gall yfed yn rheolaidd ac yn drwm arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl a llesiant. Er y gallwn deimlo’n hamddenol ar ôl diod, gall effeithiau hirdymor alcohol effeithio ar iechyd meddwl ac arwain at deimladau o iselder a phryder.
Os ydych chi’n poeni am rywun rydych chi’n ei adnabod neu’n gofalu amdano, cysylltwch â’ch meddyg teulu sy’n gallu eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol addas.
Cyhoeddodd Prif Swyddogion Meddygol y DU ganllawiau yfed alcohol yn 2016, yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth a gafodd eu casglu dros fwy nag 20 mlynedd.
Er mwyn cadw risgiau iechyd yn isel, y cyngor yw peidio ag yfed mwy nag 14 uned mewn wythnos (i ddynion a menywod). Rhannwch yr alcohol dros 3 diwrnod neu fwy, a pheidiwch ag yfed gormod ar unrhyw un diwrnod. Os ydych chi’n feichiog, neu’n ceisio beichiogi, y cyngor gorau yw peidio ag yfed o gwbl. Mae’n gallu bod yn anodd cyfrif faint o unedau sydd mewn diodydd. Os dych chi ddim yn siŵr, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein hon i’ch helpu i gyfrif faint rydych chi’n ei yfed. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y daflen ‘Meddwl am eich Yfed’.
Dyw yfed llai o alcohol ddim yn golygu rhoi’r gorau i yfed alcohol, ond mae rhai pethau syml y gallech eu hystyried:
Mae gwneud newidiadau bach i’ch arferion yfed a dilyn y cyngor hwn yn gallu cael effaith bositif ar eich iechyd a hefyd yn arbed arian i chi. Dysgwch ragor am y problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed gormod, a hefyd am effaith bosibl eich hoff ddiod ar eich pwysau.
Mae llawer ohonom yn defnyddio alcohol i ymlacio ar ddiwedd wythnos brysur ond mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ni ymlacio, fel cael bath moethus, dechrau hobi newydd neu siarad â ffrindiau.
Dyma ychydig o ffyrdd i ymlacio heb alcohol:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau’r GIG sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl sy’n cael problemau gyda defnyddio alcohol a / neu gyffuriau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.