Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

FND- Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol

Mae anhwylder niwrolegol swyddogaethol yn gyflwr sy'n effeithio ar y system nerfol trwy ymyrryd â’r ffordd mae'r ymennydd a'r corff yn rhyngweithio.

Neurons and nervous system.

Beth yw FND?

  • FND yw’r enw cyffredin ar gyfer anhwylder niwrolegol swyddogaethol. Mae’n gysylltiedig â phroblem yn ymwneud â sut mae’r ymennydd a’r corff yn anfon ac yn derbyn gwybodaeth.
  • Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol meddwl am yr ymennydd a’r corff fel cyfrifiadur. Gydag FND nid oes unrhyw ddifrod i galedwedd na strwythur yr ymennydd a’r corff, ond mae’r ffordd y mae’r corff yn anfon ac yn derbyn signalau wedi cael ei effeithio. Er enghraifft, gallwch chi ei gymharu â meddalwedd cyfrifiadurol sydd ddim yn gweithio’n iawn.
  • FND yw un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros atgyfeiriadau at wasanaethau niwroleg, mae’n effeithio ar lawer o bobl ledled y DU a’r byd. Ond, mae angen llawer mwy o ymchwil, dealltwriaeth a chefnogaeth i gefnogi cleifion FND a’u gofalwyr.

Symptomau

Mae FND yn gallu effeithio ar fywyd bob dydd unigolyn drwy achosi amrywiaeth o anawsterau, gan gynnwys prosesu gwybodaeth, symptomau corfforol a symudedd. Mae symptomau FND yn gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, a gall y symptomau y mae pobl yn eu profi ddigwydd yn y tymor byr neu’r tymor hwy. Mae symptomau’n gallu amrywio dros amser ac mae’r effaith mae’n ei chael ar fywyd bob dydd yn gallu amrywio. Nid ydym yn deall yn iawn pam fod rhai pobl yn profi rhai symptomau ac nad yw pobl eraill yn profi’r symptomau hynny o gwbl. Mae amrywiaeth o ffactorau sy’n gallu sbarduno symptomau, mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: salwch corfforol, straen emosiynol a chorfforol, neu anaf i’r corff.

Mae FND yn gyflwr sy’n amrywio o berson i berson ac mae pobl yn gallu arddangos amrywiaeth o wahanol symptomau.

Mae symptomau FND yn gallu cynnwys:

FND

Cyflwr sy’n effeithio ar y system nerfol gan ymyrryd â sut mae’r ymennydd a’r corff yn rhyngweithio.

Digwyddiadau sy’n gallu sbarduno FND

  • Anaf
  • Pwl o Banig
  • Meigryn
  • Salwch Niwrolegol
  • Anaf i’r pen

Ffactorau sy’n tueddi i achosi FND

  • Anhwylderau swyddogaethol e.e. syndrom pâr, coluddyn llidus
  • Chyflyrau niwrolegol
  • Pryder a/neu straen
  • Digwyddiadau bywyd dirdynnol
  • Trallod yn ystod plentyndod

Dyma rai cyflyrau y mae pobl yn aml yn byw gyda nhw ochr yn ochr â FND:

  • Iselder
  • Anhwylder Straen Wedi
  • Trawma
  • Osgoad (avoidance)
  • Gorbryder
  • Methu symud

Ffactorau sy'n gwneud i'r cyflwr barhau:

  • Teimlo nad oes neb yn eich credu
  • Ansicrwydd meddygol neu gamddiagnosis

Triniaeth

Deall yr anhwylder
Adsefydlu
Therapi Galwedigaethol
Therapi Iaith a Lleferydd
Ffisiotherapi
Therapi Seicolegol
Trin cyflyrau y mae pobl yn aml yn byw â nhw

Diagnosis

FND Action Functional Neurological Disorder - Non Epileptic Attack Disorder
FND Hope UK Logo
  • Yn aml, mae diagnosis o FND yn cael ei wneud gan niwrolegydd. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at niwrolegydd, os ydych chi’n profi symptomau FND, gan gynnwys trawiadau neu symptomau FND eraill.
  • Efallai y bydd yn teimlo braidd yn anodd ac yn heriol pan fyddwch chi’n clywed bod gennych FND neu ei bod hi’n debygol bod gennych FND, gan ei fod yn gallu sbarduno llawer o emosynau. Efallai y byddai’n ddefnyddiol gwybod bod grwpiau cymorth ar gael trwy FND Hope UK.
  • Efallai y bydd cael diagnosis o FND yn deimlad dryslyd neu hyd yn oed anodd ei dderbyn, gan nad oes cymaint o ymchwil a dealltwriaeth o’r cyflwr hwn.
  • Weithiau mae diagnosis yn gallu achosi teimladau tebyg i alar, gan gynnwys ofn, dicter, tristwch, gobaith a derbyniad. Mae’n hollol naturiol i deimlo’n ansicr o’ch diagnosis neu ychydig yn ddryslyd hyd yn oed. Dyma fwy o wybodaeth am wahanol gamau galar a delio â diagnosis newydd – FND Action.

Triniaeth

  • Nid yw FND yn gyflwr cynyddol, a gall cael cymorth amserol ac effeithiol helpu i reoli’r symptomau a helpu gyda’ch adferiad.
  • Nid oes gan fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wasanaeth penodol ar gyfer FND, ond gall unigolion sy’n byw gyda’r cyflwr gael cymorth gwasanaethau sy’n gallu cefnogi ac ymchwilio i symptomau penodol. Er enghraifft, gall meddyg teulu eich cyfeirio am gymorth gan therapydd iaith a lleferydd.

Cyngor / Cymorth Ychwanegol

  • Prin yw’r cymorth meddygol i bobl sydd ag FND yng Nghymru ar hyn o bryd. Ond, efallai y bydd eich meddyg teulu neu eich niwrolegydd yn gallu eich cyfeirio am ofal/cyngor a chymorth meddygol mewn gwahanol rannau o Loegr, gan gynnwys Bryste a Llundain.

  • Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch neu os ydych chi’n cael trafferth gydag FND mewn unrhyw ffordd, gallwch chi gysylltu ag FND Hope UK unrhyw bryd. Mae FND Hope UK yn elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n cefnogi llawer o bobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef o anhwylder niwrolegol swyddogaethol ledled y DU.

Cyngor ac awgrymiadau

Dyma ffyrdd a allai gefnogi’ch proses o dderbyn triniaeth a chymorth ar gyfer symptomau FND.

Cysylltwch â’ch meddyg teulu lleol i weld a allwch chi gael eich cyfeirio am gymorth arbenigol, gan gynnwys cael eich gweld gan niwrolegydd. ( Nodyn: I gael cymorth pellach, gallwch chi ofyn am ail farn gan feddyg teulu arall os oes angen).

  • Cysylltwch â FND Hope UK, gallwch chi fod yn rhan o FND Hope UK hefyd drwy fynychu grwpiau cymorth neu fynychu sesiynau ar-lein, gan gynnwys gweithgareddau fel Celf, Dawns, Ioga, Pilates, Ymwybyddiaeth Ofalgar, a mwy – Grwpiau Ar-lein, FND Hope UK.

  • Mae elusennau a sefydliadau cymorth eraill hefyd sy’n cefnogi pobl ag FND, gan gynnwys

myFNDMae’r ap ‘myFND’ yn rhoi awgrymiadau a strategaethau a fydd o bosibl yn helpu i leihau symptomau FND neu bryder ynglŷn â’r symptomau, yn ogystal â chreu dyddiadur dyddiol ac wythnosol o symptomau FND. Gall y dyddiadur ar yr ap ‘myFND’ fod yn ddefnyddiol i’w ddangos i’ch meddyg neu eich niwrolegydd, er mwyn gweld a oes unrhyw batrymau neu unrhyw sbardunau a allai fod yn achosi i’r symptomau FND waethygu.

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cofnodi’ch teimladau a’ch profiadau o symptomau FND, a sylwi a oes unrhyw sbardunau penodol a allai fod yn achosi i’r symptomau FND waethygu. Unwaith y byddwch chi wedi sylwi ar unrhyw sbardunau a allai fod yn gwaethygu’r symptomau FND, efallai y byddwch chi’n gallu osgoi’r sbardunau hyn (neu o leiaf eu rheoli).

Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl yn cael arwyddion rhybuddio bod rhai symptomau, fel trawiadau, ar fin digwydd a gall yr arwyddion rhybuddio helpu’r person i reoli’r trawiad neu hyd yn oed ei atal rhag digwydd.

Am fwy o wybodaeth, dyma ragor o gymorth gyda chadw dyddiadur a monitro symptomau FND, Canolfan Walton, a’r ‘offeryn fformiwleiddio FND‘.

Mae defnyddio technegau daearu’n gallu bod yn ddefnyddiol wrth reoli symptomau FND.

Gall gymryd ychydig o ymarfer, i ddysgu sylwi ar arwyddion o symptomau/sbardunau a sut a phryd i ddefnyddio technegau daearu ond gall daearu fod yn offeryn defnyddiol iawn. Mae rhagor o wybodaeth am beth yw daearu a sut i ddefnyddio technegau daearu i’w gweld yn Grounding Techniques gan FND Hope UK a Taking control of your functional neurological symptoms gan Ganolfan Walton.

Battery at different levels of chargeGwneud pethau’r raddol Gwirio eich symptomau FND – gallai fod yn ddefnyddiol gwirio eich lefelau egni a monitro sut rydych chi’n teimlo’n rheolaidd yn ystod y dydd. Er enghraifft, gallech chi gymharu eich egni â batri ffôn. Rhai diwrnodau mae gennych chi fwy o egni nag ar ddyddiau eraill. Pan fydd eich egni’n isel, mae’n arwydd y gallai fod angen mwy o orffwys ar eich corff a’ch meddwl, a allai fod yn orffwys meddyliol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol. Yn ogystal, mae’n bwysig meddwl am eich egni fel batri ffôn a allai fod yn ddiffygiol neu sydd angen ei wefru trwy gydol y dydd. Gallai hyn olygu bod angen i chi gorffwys a chymryd seibiannau rheolaidd yn ystod y dydd, er mwyn helpu i gynyddu eich lefelau egni, a allai o bosibl helpu i leihau blinder neu symptomau FND. Dyma ragor o wybodaeth am sut i wneud pethau’n raddol.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content