Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwasanaeth Deieteg a Maeth Plant

Mae’r Gwasanaeth Deieteg plant yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd, staff addysg, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a lleoliadau cymunedol i gefnogi plant i fodloni eu gofynion maeth ac iechyd.

Rydym yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd a gofalwyr plant o’u genedigaeth hyd at ddiwedd eu haddysg llawn amser.

Childrens Dietetic graphic

Ein nod yw darparu cyngor a chymorth ymarferol i rymuso pobl o fewn rhwydwaith cymorth y plentyn i ddatblygu arferion bwyta’n iach. Rydym yn cefnogi plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr lle gall maeth a dietau arbennig fod yn rhan o’u triniaeth, er enghraifft gydag alergeddau bwyd. Rydym hefyd yn cefnogi plant lle mae angen ymyrraeth faeth arbenigol, er enghraifft lle mae plant yn cael anawsterau wrth fwydo drwy’r geg.

 

Pa gefnogaeth sydd ar gael i chi yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg?

Mae Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol yn gynllun i blant a phobl ifanc rhwng 2 a 18 oed, yng Nghaerdydd a’r Fro, sydd eisiau cymorth i reoli eu pwysau a’u hiechyd.

NYLO – Maeth i’ch Un Bach yn rhaglen 6 wythnos yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd â phlant 5 oed ac iau. Mae NYLO yn magu hyder teuluoedd ar sut i ddarparu deiet iach a chytbwys a fydd yn annog arferion bwyta iach gydol oes y plant.

Ar gyfer plant yr amheuir bod ganddynt Alergedd Protein Llaeth Buwch rydym wedi datblygu rhai fideos a allai fod o gymorth.

Mae’n eithaf cyffredin i blant ifanc fod yn ffyslyd o ran bwyta. Mae ein tudalen gyngor yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol i helpu’ch plentyn i fwyta deiet cytbwys, mwynhau bwyd a chyfrannu tuag at amser pryd bwyd hapus.

Mae bwyta’n dda yn ystod beichiogrwydd yn arbennig o bwysig er mwyn helpu i sicrhau eich iechyd chi a’ch babi. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o fideos sy’n rhannu camau syml i’ch helpu ar eich ffordd.

Mae bwyta deiet iach a chytbwys yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu am ein hiechyd, ein llesiant a chynnal ein gweithgarwch corfforol. Dyma rai ryseitiau gwych i’ch helpu i fwyta’n dda a dechrau coginio.

Manylion cyswllt

Os ydych chi’n poeni am faeth a phwysau eich plentyn, gofynnwch am gyngor meddygol.

Tel: 029 2066 8089

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content