Bwyta’n Fympwyol Mewn Plant
Mae llawer o blant ifanc yn mynd drwy gyfnodau o wrthod bwyta bwydydd penodol, neu ar adegau, yn gwrthod bwyta unrhyw beth o gwbl. Mae gwrthod bwyd yn aml yn ffordd o ddangos annibyniaeth ac yn rhan o dyfu i fyny. Gall hyn fod yn rhwystredig weithiau i rieni a gofalwyr.
Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o blant yn tyfu allan o fwyta’n ffyslyd ac yn y pen draw yn dysgu bwyta amrywiaeth o fwydydd.
Os yw eich plentyn yn tyfu’n dda ac yn datblygu fel arfer, yna ceisiwch beidio â phoeni gormod am eu hymddygiad bwyta.
Mae ein taflen gyngor yn cynnig llawer o awgrymiadau ymarferol ar gyfer pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod gan eich plentyn ddeiet cytbwys, eu bod yn mwynhau eu bwyd ac yn cyfrannu at amserau bwyd teuluol hapus.
Bydd gosod patrymau bwyta da ar yr adeg hwn o fudd i’ch plentyn am weddill eu bywyd.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd rhesymau meddygol pam na fydd eich plentyn yn bwyta.
Y rhesymau mwyaf cyffredin yw:
- Rhwymedd
- Anemia
- Adlifiad
Os ydych chi’n amau bod eich plentyn yn dioddef o unrhyw un o’r rhain, neu’n pryderu am faeth neu bwysau eich plentyn, gofynnwch am gyngor meddygol gan eich ymwelydd iechyd neu’ch meddyg.