Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cyflwyno eich Babi i Fwydydd Solet

Mae cyflwyno eich babi i fwydydd solet, sydd weithiau’n cael ei alw’n bwydo cyflenwol neu ddiddyfnu, yn amser cyffrous, llawn hwyl. Mae’n gam datblygu pwysig pan fydd bwydydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â llaeth y fron neu laeth fformiwla babanod arferol.

Mae ein cyfres o fideos yn darparu gwybodaeth i’ch helpu i’ch tywys ar eich taith o gyflwyno bwydydd solet.

Gwybodaeth bwysig

Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn barod i gael eu cyflwyno i fwydydd solet pan maen nhw tua 6 mis oed. Cyn hyn, mae babanod yn cael yr holl faeth sydd ei angen arnynt o laeth y fron neu fformiwla babanod.

Oeddech chi’n gwybod y gall gymryd 10 neu fwy o ymdrechion i fabi dderbyn bwyd newydd? Rhowch gyfle i’ch babi archwilio amrywiaeth wych o flasau a gweadau.

Gellir rhoi bwydydd teuluol iach wedi’u stwnsio, eu gwneud yn puree neu eu gweini fel bwydydd bys meddal o’r dechrau – cofiwch beidio ag ychwanegu halen neu siwgr at ddogn eich babi.

Ymhlith y bwydydd sy’n gallu sbarduno adwaith alergaidd mae: llaeth buwch, wyau, gwenith, soia, cnau a physgod. Pan fyddwch yn dechrau cyflwyno bwydydd solet pan mae’ch babi tua 6 mis, cyflwynwch y bwydydd hyn un ar y tro ac ychydig ar y tro, er mwyn i chi allu sylwi ar unrhyw adwaith.

Wrth i’ch babi ddod yn fwy hyderus wrth fwyta gallwch feddwl am symud ymlaen o un pryd y dydd i ddau a thri phryd y dydd.

Symud ymlaen yn raddol i weadau llai stwnshlyd a mwy lympiog cyn 9 mis, gan y bydd hyn yn helpu eich babi i bontio i fwyta ystod eang o fwydydd a phrydau teuluol.

Beth mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyflwyno’ch babi i fwydydd solet, siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd. Gweler y taflenni isod am wybodaeth ychwanegol:

I gael rhagor o gyngor, ffoniwch: 029 2066 8089

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content