Mae’r Dietegwyr Pediatrig Cymunedol wedi cynhyrchu’r fideos canlynol i gefnogi rhieni/gofalwyr i ofalu am blentyn sydd ag alergedd llaeth buwch tybiedig. Gellir eu defnyddio wrth aros am eich apwyntiad Dietetig neu i gefnogi cyngor sydd wedi’i roi gan eich Dietegydd.
Mae’n bwysig nad ydych yn dechrau eich plentyn ar unrhyw gyfyngiad dietegol, oni bai eich bod wedi cael cyngor gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol fel Meddyg, Dietegydd neu Ymwelydd Iechyd.
Gall babanod sy’n cael eu bwydo ar fformiwla ac, er yn anaml iawn, fabanod sy’n cael eu bwydo ar y fron gael eu heffeithio. Gall symptomau alergaidd ddigwydd yn syth ar ôl bwydo neu gallan nhw ddigwydd yn ddiweddarach. Yn yr achos prin o symptomau uniongyrchol difrifol fel chwyddo’r gwefusau neu’r tafod, neu anawsterau anadlu, rhaid cael cymorth meddygol ar unwaith.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys y fideos hyn, neu ar reoli alergedd llaeth tybiedig neu wedi’i gadarnhau eich plentyn, gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu ffonio’r ddesg Ddyletswydd Deietetig Pediatrig Gymunedol ar 029 2090 7620
Mae’r fideos hyn ar gael at ddibenion gwybodaeth ac addysg yn unig. Ni fwriedir i’r cynnwys yn y fideos fod yn lle cyngor Meddygol neu Ddeietig a dylid ei ystyried yn ffynhonnell wybodaeth atodol.
Gofynnwch am gyngor gan eich Dietegydd, Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu bob amser os oes gennych ragor o gwestiynau am gyflwr presennol eich plentyn. Peidiwch byth ag oedi cyn ceisio neu ddiystyru cyngor meddygol proffesiynol oherwydd rhywbeth rydych wedi’i ddarllen neu ei weld ar y wefan hon. Nid yw’r fideos hyn wedi’u bwriadu at ddefnydd y cyhoedd, yn hytrach i’r rhieni/gofalwyr hynny sydd wedi’u cyfeirio at y safle hwn gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol priodol sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Gall gwybodaeth sy’n ymwneud â brandiau cynhyrchion bwyd newid felly, rydym yn cynghori bod labeli bwyd yn cael eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau nad ydynt yn cynnwys llaeth buwch.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn datgelu unrhyw atebolrwydd a phob atebolrwydd i unrhyw barti am iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, ymhlyg, cysylltiedig, neu ganlyniadol arall sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o unrhyw ddefnydd o’r cynnwys fideo a ddarperir.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.